Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Wicipedia:Pwll tywod"

Lleihawyd o 6,920 beit ,  8 o flynyddoedd yn ôl
Wedi gwacáu'r dudalen yn llwyr
No edit summary
(Wedi gwacáu'r dudalen yn llwyr)
Version:1.0 StartHTML:0000000167 EndHTML:0000010771 StartFragment:0000000454 EndFragment:0000010755
{{gwybodlen
|enw=Piet Mondrian
|delwedd= Mondriaan.jpg
|isdeitl=
|pennawd=
|maintdelwedd=200px
|eitem1= 7 Mawrth, 1872 - 1 Chwefror 1944
|testun1=Byw
|eitem2=Iseldirwr
|testun2=Cenedligrwydd
|Maes=
|testun3=Peintiwr
|eitem4= De Stijl, ''Néo-plasticisme'', Haniaethol
|testun4=Mudiad
|eitem5=
|testun5=
|eitem6=
|testun6=
|eitem7=
|testun7=
|eitem8=
|testun8=
|eitem9=
|testun9=
|eitem10=
|testun10= }}
 
'''Pieter Cornelis Mondriaan''' (Amersfoort, 7 Mawrth, 1872 – Efrog Newydd, 1 Chwefror 1944),
'''Piet Mondrian''', oedd yn beintwyr avant garde o'r [[Yr Iseldiroedd|Iseldiroedd]], yn aelod o'r mudiad [[De Stijl]] a gyda [[Theo van Doesburg]] yn sylfaenydd ''Neo Plasticism''. Fe ddatblygodd o [[Naturoliaeth]] a [[Symbolaeth]] i gelfyddyd haniaethol a fu'n un o'i arloeswyr gyda'r Rwsiad [[Wassily Kandinsky]] a [[Kazimir Malevich]]. <ref>[http://www.tate.org.uk/servlet/ArtistWorks?cgroupid=999999961&artistid=1651&page=1&sole=y&collab=y&attr=y&sort=default&tabview=bio "Piet Mondrian"], [[Tate]] gallery, published in Ronald Alley, ''Catalogue of the Tate Gallery's Collection of Modern Art other than Works by British Artists'', Tate Gallery and Sotheby Parke-Bernet, London 1981, pp.532–3. Retrieved 18 December 2007.</ref> <ref>www.theguardian.com/artanddesign/2010/jan/23/theo-van-doesburg-avant-garde-tate</ref>
 
==Gyrfa gynnar==
O 1892 tan 1908 astudiodd yn Academi Celf Gain, [[Amsterdam]], yn ddisgybl i August Allebé.
 
Fe ddechreuodd weithio fel athro ysgol gynradd, ond yn dal i beintiodd yn ei hamser ei hun. Roedd y rhan mwyaf o'i waith yn ystod y cyfnod yma'n dirweddau arddull [[Naturoliaeth]] neu [[Argraffiadaeth]] (Impressionist). Roedd y delweddau yma o'r Iseldiroedd yn cynnwys melinau gwynt, caeau a chamlasau yn steil ''Ysgol yr Hague'', ac wedyn mewn amryw o arddulliau a thechnegau wrth chwilio am steil personol. Mae ei waith o'i gyfnod cynnar yn dangos dylanwad sawl mudiad fel [[Pwyntiliaeth]] (pointillism) a [[Fauvism]].
 
Mewn arddangosfa yn yr amgueddfa ''Gemeentemuseum Den Haag'' mae nifer o ddarluniau o'r cyfnod yma yn cynnwys gwaith ''Post Impressionist'' fel ''Y Felin Goch'' a ''Coed wrth golau'r lleuad''. Mae darlun arall ''Avond'' ("Hwyr") (1908), yn dangos coeden wrth iddi nosi, mae'r dewis o liwiau'n gyfyngedig i goch, melyn a glas, er nid yw'n haniaethol, ''Avond'' yw'r cyntaf o ddarluniau Mondrian i ddibynnu ar liwiau cysefin (primary colours). <ref>[http://www.gemeentemuseum.nl/collection/item/1039 gemeentemuseum]</ref>
 
Mewn cyfres o ddarluniau o 1905-1907, er bod dal yn seiliedig ar Naturoliaeth gyda choed annelwig ac adlewyrchiadau, mae symudiad tuag at waith haniaethol yn dechrau ymddangos ac yn sail i'w waith ddiweddarach.
 
==Dylanwad Ciwbiaeth==
Cafodd waith Mondrian ei ddylanwadu'n gryf gan waith y grŵp [[Ciwbiaeth|Ciwbaidd]] y ''Moderne Kunstkring'' (Cylch Celfyddyd Fodern) a welodd mewn arddangosfa yn Amsterdam ym 1911. Ei ymdrechion geisio symleiddio elfennau i'w weld yn y dau ddarlun ''Stilleven met gemberpot'' (Bywyd Llonydd gyda Jar Sinsir). Yn y fersiwn ciwbiadd, 1911 a'r fersiwn haniaethol, 1912 mae'r ffufiau yn cael eu lleihau i gylchoedd, trionglau a sgwariau. <ref>[http://www.guggenheim.org/new-york/collections/collection-online/artwork/3002 Guggenheim Collection – Artist – Mondrian – Still Life with Gingerpot I<!-- bot-generated title -->] </ref> <ref>Casiraghi, Roberto [http://www.englishgratis.com/1/wikibooks/greatpainters/pietmondriaan.htm "Piet Mondrian - Nike Dunk Low SB - Available!"], http://www.englishgratis.com. </ref>
 
==De Stijl==
[[File:Stijl vol 04 nr 09 p 129.jpg|thumb|Cylchgrawn De Stijl]]
Rhwng 1914 a 1914 fu yn Paris, ble gafodd ei ddylanwadu ymhellach gan Giwbiaeth. Wrth ddychwelodd i Amsterdam yn 1915 fe gyfarfu â [[Theo van Doesburg]] ac fe sefydliwyd y grŵp [[De Stijl]] (Y Steil) gan y ddau ym 1917 <ref>www.theguardian.com/artanddesign/2010/jan/23/theo-van-doesburg-avant-garde-tate</ref>. Fe gyhoeddwyd y clchgrawn [[De Stijl]] rhwng 1917 i 1926 gan gasglu o'u hamgylch artistiaid a ddylanwadwyd gan syniadaeth chwyldroadol Ciwbiaeth. Bu Mondrian y pwysicaf ohonynt.
Ym 1919 fe ddychwelodd i Paris ble ym 1921 fe leihawyd i balet o liwiau i dim ond gwyn, du a'r lliwiau cysefin (primary colours). Ym 1930 fe ymunodd â'r grŵp "Cercle et carré" ac yn 1931 â ''Abstraction-Création''. I osgoi'r ail ryfel byd fe symudodd yn gyntaf i Lundain, ac wedyn ym 1940, i [[Efrog Newydd]]. <ref>{{cite web|url=http://www.bbc.co.uk/news/uk-england-merseyside-27683519 |title=BBC News - Liverpool Tate to host 'largest' UK Mondrian exhibition |publisher=Bbc.co.uk |date=2013-04-19 |accessdate=2014-06-04}}</ref>
Yn Efrog Newydd yn y 1940au fe ddatblygodd ei waith yn wrthgyferbyniad rhythmig o liwiau llachar dan dylanwad cerddoriaeth Jazz a phatrwm strydoedd y ddinas, gan ddewis teitlau fel ''Broadway Boogie-Woogie'' i'r darnau. <ref>http://www.moma.org/collection/browse_results.php?object_id=78682</ref>
Mae syniadaeth ac esthetig Mondrian wedi dylanwadu’n gryf ar gelf, pensaernïaeth, cerfluniaeth a dylunio ail hanner yr 20fed ganrif
 
==Athroniaeth ac Esthetig ==
Roedd celfyddyd Mondrian o hyd yn perthyn yn agos a'i astudiaeth ysbrydol ac [[athroniaeth|athronyddol]]. O 1908 fe ymddiddorodd yn y mudiad Theosoffi a sefydlwyd gan Helena Petrovna Blavatsky ar ddiwedd y 19eg canrif. <ref>{{Cite book|title=Modern Esoteric Spirituality|year=1992|publisher=Crossroad|isbn=0824514440|page=327|first=Emily B.|last=Sellon|first2=Renee|last2=Weber|editor-last=Faivre|editor-first=Antoine|editor3-last=Needleman|editor3-first=Jacob|chapter=Theosophy and the Theosophical Society|series=World Spirituality|volume=21}}</ref>
 
Trwy geometrig haniaethol (abstract geometry) roedd Mondrian yn chwilio am strwythur sylfaenol y bydysawd. Fe ddaeth Mondrian i'r casgliad nad oedd pwrpas i gelf ceisio creu copïau o bethau sydd yn bod yn ein byd pob dydd ond i ymchwilio i realiti dyfnach gan ddod o hyd i 'gelf pur'. <ref>[http://www.ft.com/cms/s/2/711772d8-11e4-11df-b6e3-00144feab49a.html Van Doesburg at Tate Modern] By Jackie Wullschlager, Published 2010/6/2</ref>
 
Pan ddechreuodd [[Theo Van Doesburg]] arbrofi a defnyddio elfennau ar onglau cam yn ei ddarluniau, fe adawodd Mondrian y grŵp[[De Stijl]]. </ref> <ref>www.theguardian.com/artanddesign/2010/jan/23/theo-van-doesburg-avant-garde-tate</ref>
 
== Teryrngedau yn steil Mondrian ==
<gallery>
Image:Mondrian lookalike.svg|Darlun neo-plastic ag ysbrydolwyd gan steil Mondrian.
Image:Mondrianlike.png|Hendrike. ''Grid yn debyg i steil Piet Mondrian.'' 2007.
Image:Cuadrats.jpg|Domingo Sarrey. ''Cuadrats (Homenaje a Mondrian).'' 1968.
Image:PMinspirert.jpg|Bjørn som tegner. ''Esiampl o gelf ag ysbrydolwyd gan tableaux Piet Mondrian.'' 2007.
</gallery>
 
 
== Cyfieiriadau ==
{{Reflist}}
Defnyddiwr anhysbys