Llinyn Trôns: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
newidiadau man using AWB
Llinell 5:
 
==Plot==
Ar ddechrau'r nofel cyflwynir y prif gymeriad Llion Jones. Ei ffugenw ydy "Llinyn Trôns" - enw a roddwyd iddo gan ei dad pan gollodd y ras wy-ar-lwy pan oedd yn yr ysgol gynradd. Am fod y nofel gyfan wedi ei hysgrifennu yn y person cyntaf, disgrifia Llion ei hun fel "hogyn tawel... yn hapus efo 'nghwmni fy hun a'm cyfrifiadur". Nid yw Llion eisiau mynd ar gwrs tridiau i wersyll awyr agored sydd wedi cael ei drefnu gan yr athro Addysg Gorfforol, Tecwyn Jones, neu Tecs Pecs fel mae'r disgyblion yn ei alw. Nod y cwrs hwn yw adeiladu cymeriad a thra byddant yno bydd y disgyblion yn cael canlyniadau eu haroliadauharholiadau TGAU.
 
Cyflwynir gwahanol gymeriadau gan gynnwys Gags, Nobi, Gwenan, Olwen, Dei Dwy Dunnall a Donna (yr hyfforddwraig o'r gwersyll). Ar ôl iddynt gyrraedd y gwersyll, mae'r disgyblion yn mynd i ddringo mynydd, canwio, dringo creigiau, abseilio ac yn gweithio fel tîm er mwyn chwythu chwiban sydd wedi'i osod i fyny'n uchel ar gangen coeden.