.cym: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
Ymgyrch a sefydlwyd ym mis Ionawr [[2006]] i ennill parth gwefannol i 'gymuned ieithyddol a diwylliannol y [[Gymraeg]]' yw '''.cym''' (hefyd '''dotcym'''). Bellach defnyddir '''dotCYMRU'''. Sefydlwyd cwmni cyfyngedig nid er elw i ymgyrchu a chyflwyno'r cais gan Siôn Jobbins a Maredudd ap Gwyndaf.
 
Yn wreiddiol defnyddiwyd y talfyriad CYM am y Gymraeg gan mai dyma yw cydnabyddiaeth swyddogol [[ISO]] 639-2 alpha-3 yr iaith a chafwyd [https://commons.wikimedia.org/wiki/File:Cyhoeddi_grant_i_dotCYM_gan_Ieuan_Wyn_Jones,_2008.jpg cefnogaeth] Ieuan Wyn Jones AC Gweinidog Economi a Thrafnidiaeth i'r cais yn 2008.
 
Cred yr ymgyrchwyr oedd y byddbyddai ennill yr hawl i roi ''.cym'' ar ddiwedd cyfeiriad [[gwefan]] yn codi statws y Gymraeg ac yn arwain at ragor o ddefnydd o'r Gymraeg ac adnoddau Cymraeg ym maes [[technoleg gwybodaeth]]. Honnant y byddai ''.cym'' hefyd yn rhoi statws ac yn fynegiant gweledol i fodolaeth y Gymraeg a Chymreictod.
 
Ysbrydolwyd yr ymgyrch wedi llwyddiant ymgyrch puntCAT y [[Catalwnia|Catalaniaid]] i ennill statws i'w cymuned ieithyddol a diwylliannol hwy (.cat). Bu cydweithio ymgyrch .cymru yn cydweithio agos gyda [http://dotscot.net/ dotSCOT] ([[Yr Alban]]), [http://www.pik.bzh/index.php?lang=br pikBZH] ([[Llydaw]]), [http://www.puntueus.org/eu/ puntEUS] ([[Gwlad y Basg]]) a [http://www.puntogal.org/ puntoGAL] ([[Galisia]]). Roedd dotCYMRU (dotCYM gynt) yn un o sylfaenwyr partneriaeth o geisiadau dros barthau ieithyddol a diwylliannol gorllewin Ewropeaidd, ECLIC [http://www.eclid.eu/] . Sefydlwyd ECLID er mwyn lobio dros y parthau hyn ac er mwyn ceisio prysuro'r broses o gynnig cais ar ran parthau ieithyddol a diwylliannol.
Llinell 9:
Oherwydd rheolau newydd gan y corff byd-eang dros barthau rhyngrwyd (ICANN) yn 2010 bu'n rhaid hepgor y dewis enw, CYM, oherwydd iddo gyd-daro â côd tair llythyren ar gyfer Ynysoedd y Cayman. Yn dilyn trafodaeth agored lle gwahoddwyd y cyhoedd i awgrymu eu hoff enw parth ar gyfer y gymuned Gymreig a Chymraeg, dewiswyd dotCYMRU ym mis Tachwedd 2010.
 
Bellach,Mabwysiadwyd ynyr enw dotCYMRU [http://www.theregister.co.uk/2011/03/03/wales_domain_delays/]. Yn 2011 dyfarnwyd gan Lywodraeth Cymru mai cwmni Nominet byddai'n cyflwyno'r cais. Er gwaethaf penderfyniad wreiddiol y Prif Weinidog, Carwyn Jones AC, i gefnogi cais ar gyfer .wales yn unig, newidiodd ei feddwl a cyflwynwyd cais ar gyfer .cymru a .wales i ICANN yn 2013. Disgwylir i'r parth '''[[.cymru]]''' a .wales for ar werth i'r cyhoedd yn 2015 ac fe'i gweinyddir gan Nominet o dan enw [http://Ein%20Cartref%20Arleinhttp://eincartrefarlein.org.uk/ .cymru - Ein Cartref Ar-lein].