Ras yr Iaith: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
Ras hwyl gyfnewid er lles yr iaith Gymraeg yw '''Ras yr Iaith'''. Seilir hi ar rasus iaith eraill yn [[ar Redadeg]] ([[Llydaw]]), [[Korrika]] ([[Gwlad y Basg]]) a'r [[an Rith]] ([[Iwerddon]]). Trefnir y Ras gan wirfoddolwyr lleol o dan arweiniad Cered, Menter Iaith Ceredigion. Mae unrhyw elw a wneir o'r arian a godir ar fudiadau a busnesau sy'n noddi 1km yn cael ei fuddsoddi ar ffurf grantiau i hyrwyddo'r iaith Gymraeg o fewn ardal y Ras.
 
[[Delwedd:Baton Ras yr Iaith 2014.jpg|bawd|de|200px|Baton Ras yr Iaith]]
==Trefniant==
Y bwriad oedd cynnal y ras gyntaf ym mis Medi 2013, ond bu'n rhaid gohirio yn dilyn cyfarfod rhwng y trenfwyr ac awdurodau’r priffyrdd a’r heddlu<ref>[http://www.tivysideadvertiser.co.uk/news/10648318.Ras_yr_Iaith_postponed/ Ras yr Iaith postponed] Tivyside 2.9.2013</ref> Cynhaliwyd Ras yr Iaith am y tro cyntaf yn 2014. Yn wahanol i rasus y gwledydd eraill dim ond o fewn trefi y bydd Ras yr Iaith yn rhedeg. Yn wahanol hefyd i Wlad y Basg a Llydaw nid yw'n rhedeg yn ddi-dor, ddydd a nos. Gweinyddir Ras yr Iaith gan Rhedadeg Cyf a sefydlwyd gan Siôn Jobbins.
 
==Ras 2014==