Rith: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Ras gyfnewid baton dros yr iaith Wyddeleg yw'r Rith (neu 'an Rith'). Golyga'r gair 'rhedeg' yn yr iaith Wyddeleg. Cynhaliwyd y Rith gyntaf yn 2010 y...'
 
Dim crynodeb golygu
Llinell 5:
Rhedodd Rith 2012 700km rhwng sir Donegal a gorffen ar [[Ynysoedd Aran]] gan deithio drwy Belffast a Dulyn. Yn 2014 dechreuodd y Rith 1,000km gan ddechrau yn Sir Corc a gorffen yn Belffast.
 
Mae'r Rith yn seiliedig ar rasus iaith di-gystadleuaeth eraill yng [[Llydaw]] ([[ar Redadeg]]), [[Gwlad y Basg]] ([[Korrika]]) a Chymru ([[Ras yr Iaith]]). Cynhelir hi bob dwy flynedd. Yn wahanol i rasus iaith Llydaw a Gwlad y Basg nid yw'r ras yn rhedeg yn ddi-stop drwy'r dydd a'r nos ond yn hytrach yn sefyll dros nos mewn tref cyn ailgychwyn drannoeth.
 
Trefnir y Rith gan fudiadau iaith y Wyddeleg ac mae'n gweithio'n draws-ffiniol ar hyd y Weriniaeth a'r Chwe Sir.