Rith: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
Ras gyfnewid baton dros yr iaith [[Wyddeleg]] yw'r Rith (neu 'an Rith'). Golyga'r gair 'rhedeg' yn yr iaith Wyddeleg.
 
Cynhaliwyd y Rith gyntaf yn 2010 yn ystod wythnos [[Seachtain na Gaeilge]] ('wythnos y Wyddeleg') sy'n arwain at DyddDdydd San[[Sant BadrigPadrig]] a cynhelir pob Rith ers hynny yn ystod yr wythnos hon. Dechreuodd yn ninas [[Belffast]] a gorffen yn ninas Gaillimh (Gallway) gan redeg a phasio'r baton oddeutu 600km ar hyd llwybr drwy dinasoedd a threfni'n cynnwys [[Dulyn]] a [[Corc]]. Cafwyd neges o gefnogaeth i'r Rith oddi fewn i'r baton gan [[Arlywydd Iwerddon]] [[Mary McAleese]].
 
Rhedodd Rith 2012 700km rhwng sir Dún na nGall (Donegal) a gorffen ar [[Ynysoedd Aran]] gan deithio drwy Belffast a Dulyn. Yn 2014 dechreuoddrhedodd y Rith 1,000km gan ddechrau yn Sir Corc a gorffen yn Belffast.
 
Mae'r Rith yn seiliedig ar rasus iaith di-gystadleuaeth eraill yng [[Llydaw]] ([[ar Redadeg]]), [[Gwlad y Basg]] ([[Korrika]]) a Chymru ([[Ras yr Iaith]]). Cynhelir hi bob dwy flynedd. Yn wahanol i rasus iaith Llydaw a Gwlad y Basg nid yw'r ras yn rhedeg yn ddi-stop drwy'r dydd a'r nos ond yn hytrach yn sefyll dros nos mewn tref cyn ailgychwyn drannoeth.
 
Trefnir y Rith gan fudiadau iaith y Wyddeleg ac mae'n gweithio'n draws-ffiniol ar hyd y Weriniaeth a'r Chwe Sir. Mae'n derbyn cefnogaeth gref gan rwydwaith [http://www.gaelscoileanna.ie/ Gaelscoil] - ysgolion cyfrwng Gwyddeleg yr ynys hefyd.
 
==Cân y Rith==