Asurfaen: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Llinell 4:
Heddiw, pery mwyngloddiau yng ngogledd-dwyrain Affiganistan i fod yn ffynhonnell bwysig o asurfaen. Daw cryn dipyn, yn ogystal, o fwyngloddiau i'r gorllewin o [[Llyn Baikal|Lyn Baikal]] yn [[Rwsia]] a mynyddoedd yr [[Andes]] yn [[Chile]]. Mwyngloddir rywfaint ohono hefyd yn yr Eidal, Mongolia, yr UDA a Chanada. <ref>http://www.gemstone.org/index.php?option=com_content&view=article&id=117:sapphire&catid=1:gem-by-gem&Itemid=14. Adalwyd 28/07/14</ref>
==Hanes==
Mae asurfaen wedi cael ei fwyngloddio yn [[Affganistan]] a'i allforio oddi yno i wledydd [[Môr y Canoldir]] a De Asia ers yr oes [[Oes Newydd y Cerrig|Neolithig]]. <ref>Moorey, Peter Roger (1999). Ancient mesopotamian materials and industries: the archaeological evidence. Eisenbrauns. tt. 86–87. ISBN 978-1-57506-042-2.</ref> Cyflwynwyd asurfaen i'r [[Aifft]] hynafol o Fôr y Canoldir, a daeth yn rhan boblogaidd maes o law o addurniadau a gemwaith megis sgarabau. Crybwyllir asurfaen sawl gwaith yn y gerdd [[MestpotamiaMesotpotamia|Fesopotamaidd]] [[Epig Gilgamesh]], sef un o weithiau llenyddol hynaf y byd.
 
Ceir cyfeiriadau lu i [[saffir]] yn yr [[Hen Destament]], ond mae ysgolheigion yn gytûn y cyfeirir at asurfaen pan sonnir am saffir am nad oeddent yn hysbys i'r [[Ymerodraeth Rufeinig]] bryd hynny. <ref> Pearlie Braswell-Tripp (2013), Real Diamonds and Precious Stones of the Bible (ISBN 978-1-4797-9644-1)</ref>