Asurfaen: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 2:
Glain purlas yw '''asurfaen''' a werthfawrogwyd ers dyddiau'r [[Yr Henfyd|Henfyd]] am ei liw arddwys. <ref>http://geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html, ''Geiriadur Prifysgol Cymru'': "asurfaen"</ref>
 
Heddiw, pery mwyngloddiau yng ngogledd-dwyrain Affiganistan i fod yn ffynhonnell bwysig o asurfaen. Daw cryn dipyn, yn ogystal, o fwyngloddiau i'r gorllewin o [[Llyn Baikal|Lyn Baikal]] yn [[Rwsia]] a mynyddoedd yr [[Andes]] yn [[Chile]]. Mwyngloddir rywfaintrhywfaint ohono hefyd yn yr [[Eidal]], [[Mongolia]], yr [[UDA]] a [[Canada|Chanada]]. <ref>http://www.gemstone.org/index.php?option=com_content&view=article&id=117:sapphire&catid=1:gem-by-gem&Itemid=14. Adalwyd 28/07/14</ref>
==Hanes==
Mae asurfaen wedi cael ei fwyngloddio yn [[Affganistan]] a'i allforio oddi yno i wledydd [[Môr y Canoldir]] a De Asia ers yr oes [[Oes Newydd y Cerrig|Neolithig]]. <ref>Moorey, Peter Roger (1999). Ancient mesopotamian materials and industries: the archaeological evidence. Eisenbrauns. tt. 86–87. ISBN 978-1-57506-042-2.</ref> Cyflwynwyd asurfaen i'r [[Aifft]] hynafol o Fôr y Canoldir, a daeth yn rhan boblogaidd maes o law o addurniadau a gemwaith megis sgarabau. Crybwyllir asurfaen sawl gwaith yn y gerdd [[Mesotpotamia|Fesopotamaidd]] [[Epig Gilgamesh]], sef un o weithiau llenyddol hynaf y byd.