Asurfaen: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llinell 9:
 
==Hanes==
Mae asurfaen wedi cael ei fwyngloddio yn [[Affganistan]] a'i allforio oddi yno i wledydd [[Môr y Canoldir]] a De Asia ers yr oes [[Oes Newydd y Cerrig|Neolithig]]. <ref>Moorey, Peter Roger (1999). Ancient mesopotamian materials and industries: the archaeological evidence. Eisenbrauns. tt. 86–87. ISBN 978-1-57506-042-2.</ref> Cyflwynwyd asurfaen i'r [[Aifft]] hynafol o Fôr y Canoldir, a daeth yn rhan boblogaidd, maes o law, o addurniadau a gemwaith megis [[sgarab|sgarabau]]. Crybwyllir asurfaen sawl gwaith yn y gerdd [[Mesotpotamia|Fesopotamaidd]] [[Epig Gilgamesh]], sef un o weithiau llenyddol hynaf y byd.
 
Ceir cyfeiriadau lu i [[saffir]] yn yr [[Hen Destament]], ond mae ysgolheigion yn gytûn y cyfeirir at asurfaen pan sonnir am saffir am nad oeddent yn hysbys i'r [[Ymerodraeth Rufeinig]] bryd hynny. <ref> Pearlie Braswell-Tripp (2013), Real Diamonds and Precious Stones of the Bible (ISBN 978-1-4797-9644-1)</ref>