Lol: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 7:
Cyhoeddwyd y cylchgrawn fwy neu lai yn ddi-dor dan wahanol enwau a gwahanol olygyddion ac yn enw gwahanol gwmnïau. Un o'r golygyddion mwyaf mentrus oedd [[Eirug Wyn]] a aeth i gryn drafferthion ariannol yn sgil stori a gyhoeddodd am berthynas cwmni teledu arbennig ag [[S4C]]. Yn nodweddiadol, roedd wedi gwrthod ymddiheuro am gynnwys y stori.
 
Ymddangosodd rhai rhifynnau dan yr enw '''''Dim Lol''''', dan olygyddiaeth Garmon Ceiro, ond wedi bwlch yn 2009, ailymddangosodd ''Lol'' dan ei enw gwreiddiol yn 2010 ond gyda chyhoeddwyr newydd, Cwmni Drwg Cyfyngedig. Mae wedi ymddangos yn flynyddol wedi hynny a bydd yn dathlu ei benblwydd yn hanner canrifcant oed yn 2015.
 
Mae ''Lol'', o dan ei wahanol enwau, yn gwerthu tua 4,000 copi y flwyddyn, ac yn un o'r ychydig gylchgronau Cymraeg a gaiff ei gyhoeddi heb unrhyw grant cyhoeddus.