Lol: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu |
Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 3:
Y bwriad gwreiddiol oedd creu cylchgrawn ysgafn, poblogaidd ar gyfer pobl ifainc yn bennaf ond gyda chyhoeddi'r trydydd rhifyn yn 1967 yn [[Eisteddfod Genedlaethol Cymru y Bala 1967|Eisteddfod y Bala]] — y rhifyn cyntaf i'r Lolfa ei hun ei argraffu — cymerodd y cylchgrawn dro i gyfeiriad mwy [[dychan]]ol. Cafwyd prawf buan o hyn yn ymateb ffyrnig [[Albert Evans-Jones|Cynan]] i eiriau amdano a ymddangosodd ar draws bronnau rhyw ferch. Bygythiodd Y Lolfa ag achos enllib ond fe setlwyd y mater yn ddeheuig gan [[Robin Lewys]], yn gweithredu ar ran y cwmni gyda chyfreithiwr Cynan.
Cafodd y cylchgrawn drafferthion cyfreithiol pellach yn sgil rhai o'r rhifynnau dilynol. Un o'r achosion enwocaf oedd un a ddaeth Syr Alun Talfan Davies yn erbyn y cylchgrawn am stori amdano ef a'i nai, Geraint Talfan Davies, ond gwrthododd ''Lol'' ymddiheuro na thalu unrhyw gostau gan ddweud y byddent yn gofyn i'r digrifwr Eirwyn Pontshan eu cynrychioli fel "Amicus Curiae" mewn unrhyw achos uchel-lys
Ymddangosodd rhai rhifynnau dan yr enw '''''Dim Lol''''', dan olygyddiaeth Garmon Ceiro, ond wedi bwlch yn 2009, ailymddangosodd ''Lol'' dan ei enw gwreiddiol
Mae ''Lol'', o dan ei wahanol enwau, yn gwerthu tua 4,000 copi y flwyddyn, ac yn un o'r ychydig gylchgronau Cymraeg a gaiff ei gyhoeddi heb unrhyw grant cyhoeddus.
|