Negev: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
ffynonellau
Llinell 4:
Mae'r Negev yn gorchuddio mwy na hanner tiriogaeth Israel, dros 13,000 km² (4,700 milltir sgwar) neu 55% o'r wlad. Mae'n ffurfio triongl a'i ymyl orllewinol yn cyffwrdd ag anialwch gorynys [[Sinai]] a'i ymyl ddwyreiniol yn cael ei dynodi gan ddyffryn [[Arabah]] a'r [[Môr Marw]]. Mae'n anialwch creigiog gyda sawl dyffryn sych (''[[wadi]]'') yn rhedeg trwyddo. Mae'r rhan ogleddol yn cael mwy o law ac yn gymharol ffrwythlon tra bo'r de'n sych iawn.
 
Mae'r Negev yn gartref i tua 379,000 [[Iddew]] a thua 175,000 Bedouin. Mae tua 80,000 o'r Bedouin yn byw mewn pentrefi (dim ond canran isel iawn sy'n lled-nomadig erbyn heddiw) sydd ddim yn cael eu cydnabod gan yr awdurdodau Israelaidd ac sydd dan fygythiad o gael eu dymchwel dan y gyfraith. Mae rhai wedi galw hyn yn bolisi o "lanhau ethnig" yn y Negev.<ref>{{dyf gwe |iaith=en |url=http://www.euronews.com/2013/07/15/ethnic-cleansing-claim-over-israel-s-plan-to-relocate-negev-bedouins/ |teitl=‘Ethnic cleansing’ claim over Israel’s plan to relocate Negev Bedouins |cyhoeddwr=[[Euronews]] |dyddiad=15 Gorffennaf 2013 |dyddiadcyrchiad=3 Awst 2014 }}</ref><ref>{{Angendyf gwe |iaith=en |url=http://www.aljazeera.com/indepth/opinion/2012/10/2012102114393741506.html |teitl=Israel: Ethnic cleansing in the Negev |cyhoeddwr=[[Al Jazeera]] |awdur=White, Ben |dyddiad=22 Hydref 2012 |dyddiadcyrchiad=3 Awst 2014 ffynhonnell}}</ref>
 
Canolfan weinyddol a dinas fwyaf yr ardal yw [[Beersheba]] (pob. 185,000), yn y gogledd. Yn y de ceir [[Gwlff Aqaba]] a dinas gwyliau [[Eilat]]. Mae trefi eraill yn cynnwys [[Dimona]], [[Arad, Israel|Arad]], [[Mitzpe Ramon]], [[Sderot]], a sawl treflan Bedouin, yn cynnwys [[Rahat]] a [[Tel as-Sabi]]. Ceir yn ogystal sawl ''[[cibwts]]'', yn cynnwys Sde Boker lle ymddeolodd [[David Ben-Gurion]], prif weinidog cyntaf Israel.
 
== Cyfeiriadau ==
{{cyfeiriadau}}
 
== Dolenni allanol ==