Affricaneg: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 15:
Un o ieithoedd [[De Affrica]] yw '''Afrikaans'''. Mae'n tarddu o'r iaith [[Iseldireg]] ond yn sefyll ar wahân iddi fel [[Ieithoedd Germanaidd|Iaith Germanaidd]] yn y teulu o [[ieithoedd Indo-Ewropeaidd]].
 
Datblygodd Afrikaans yn Ne Affrica gyda dyfodiad yr [[Afrikaniaid]] (Boeriaid) yn y [[18fed ganrif]]. Mae'n iaith swyddogol yn y wlad ers [[1925]]. Mae'r iaith yn cynnwys dylanwadau o ieithoedd eraill megis Ffrangeg a Saesneg a hefyd iaith y caethwaesion a'r gweithwyr a ddygwyd neu ddenwyd i weithio i'r Iseldirwyr gwreiddiol e.e. MalayMalayeg o drefedigaethau'r Iseldiroedd yn nwyrain Asia a hefyd y brodorion [[Khoi]] a [[San]]. Mae'r iaith felly, o'r cychwyn, wedi bod yn iaith amlethnig.
 
==Demograffeg Siaradwyr Afrikaans==
Llinell 22:
Yn ôl [http://www.statssa.gov.za/Census2011/Products/Census_2011_Census_in_brief.pdf Cyfrifiad 2011 De Africa] mae 7 miliwn o bobl yn siarad Afrikaans fel iaith gyntaf (13% o'r boblogaeth). Mae'n iaith gyntaf 70% (3.5 miliwn person) o'r gymuned 'Lliw' a 60% (2.7 miliwn) o'r gymuned gwyn. Ceir oddeutu 600,000 o bobl Ddu sy'n siarad Afrikaans fel iaith gyntaf hefyd.
 
Mae 11% o boblogaeth [[Namibia]] hefyd yn siarad Afrikaans ac yn lingua franca mewn sawl sefyllfa. Mae'r rhan fwyaf o'r siaradwyr yn ardal y brifddinas, Windhoek a'r ardaloedd sy'n ffinio a thalaidd Gogledd y Penrhyn yn Ne Affrica.
 
Amcangyfrifir fod rhwng 15 - 23 miliwn o bobl yn gallu siarad Afrikaans fel iaith gyntaf neu ail neu drydydd iaith.