Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Mynydd Hermon"

Lleihawyd o 3 beit ,  8 o flynyddoedd yn ôl
dim crynodeb golygu
(Man olygu using AWB)
No edit summary
}}
 
Mynydd yn y [[Dwyrain Canol]] yw '''Mynydd Hermon''' ([[Arabeg]]: '''Jebel el Al Shaikh''', [[Hebraeg]]: '''הר חרמון''', ''Har Hermon''). Saif ym mynyddoedd Antilibanus, gyda'r copa ar y ffîn rhwng [[Libanus]] a [[Syria]]. Mae tua 100km2 o'r llethrau de-orllewinol dan reolaeth [[Israel]] ers y [[Rhyfel Chwe Diwrnod]] yn [[1967]]; cyhoeddodd Israel yn [[1980]] fod y diriogaeth yma yn cael ei hymgorffori. Mae gan Syria ac Israel arsyllfeydd milwrol ar lethrau'r mynydd.
 
Mae Mynydd Hermon yn enwog am ei harddwch, a chanodd llawer o feirdd [[Hebraeg]] ac [[Arabeg]] iddo. Ceir tarddle [[Afon Iorddonen]] ar ei lethrau, a cheir nifer o gyfeiriadau ato yn [[y Beibl]]. Oherwydd hyn, mae'n bur gyffredin fel enw ar gapel yng Nghymru, a cheir yr enw "Hermon" ar o leiaf dri pentref, [[Hermon (Sir Gaerfyrddin)]], [[Hermon (Sir Benfro)]] a [[Hermon (Ynys Môn)]].
567

golygiad