Alemanni: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
[[Image:Alemanni_expansion.png|thumb|280px|Tiriogaethau yr Alamanni, a safleoedd brwydrau rhwng yr Alamanni a'r Rhufeiniaid, 3ydd i 6ed ganrif]]
 
Roedd yr '''Alemanni''', '''Allemanni''' neu '''Alamanni''' yn wreiddiol yn gynghrair o lwythau Almaenig oedd yn byw o amgylch rhan uchaf yr [[Afon Main]], yn awr yn yr [[Almaen]]. Bu llawer o frwydro rhwng yr Alemanni a'r Ymerodraeth Rufeinig o'r [[3edd ganrif]] ymlaen; gyda'r Alamanni yn aml yn croesi'r ffin i ymosod ar dalaith [[Germania Superior]]. O'r [[5ed ganrif]] ymlaen, ehangodd eu tiriogaethau, gan symud i mewn i [[Alsace]] a chyrraedd dyffrynnoedd yr [[Alpau]] erbyn yr [[8fed ganrif]]. Ffurfiasant wlad [[Alemannia]], oedd ar brydiau yn annibynnol ond yn amlach na pheidio dan reolaeth y [[Ffranciaid]]. Collodd ''Allemania'' ei hunaniaeth pan ymgorfforodd [[CharlesSiarl Martel]] y wlad yn yr Ymerodraeth Ffrancaidd yn gynnar yn yr [[8fed ganrif]].
 
Daw'r enw "Yr Almaen" am y wlad o enw'r Alamanni, ac felly hefyd yn [[Ffrangeg]] (''Allemagne'') ac yn [[Sbaeneg]] (''Alemania'').