Thomas Roberts, Llwyn'rhudol: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 4:
Ganed Thomas Roberts yn Llwyn'rhudol (hefyd: Llwynrhudol) ym mhlwyf [[Abererch]], ger [[Pwllheli]], [[Eifionydd]], yn 1765 neu 1766. Cyfreithiwr cefnog oedd ei dad, Robert Williams o'r Llwyndu, [[Llanllyfni]]. Bu farw rhieni Thomas yn bur gynnar ac aeth i fyw a gweithio yn [[Llundain]] cyn cyrraedd ei 14 oed. Gweithiai fel eurof yno. [[Crynwr]] oedd o ran ei ddaliadau crefyddol.<ref>John James Evans, ''Cymry enwog y ddeunawfed ganrif'' (Gwasg Aberystwyth, 1937). Pennod IV.2.</ref>
 
Ymunodd ym mwrlwm bywyd cymdeithasol, diwylliannol a gwleidyddol Cymreig Llundain. Bu'n un o sefydlwyr [[Cymdeithas y GwyneddigionCymreigyddion]], gyda [[Jac Glan-y-gors]] ac eraill, yn 1793. Yn 1794, bu'n un o'r deg a sefydlodd [[Cymdeithas y Cymreigyddion|Gymdeithas y Cymreigyddion]].
 
Enw ei wraig oedd Mary, yn enedigol o [[Swydd Warwick]]. Cawsant bedwar o blant.