Gŵyl Calan Gaeaf: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
treigl
Llinell 3:
 
== Hanes ==
I'r Celtiaid, yr oedd Calan Gaeaf yn ddydd pan oedd y drws rhwng eu byd hwy a'r byd nesaf yn agor, ac felly yr oedd yn ddydd i rhoiroi teyrnged i'r meirw, yn ogystal ag ofni bod ysbrydion yn ymweld â nhw. Felly, er mwyn rhwystro ysbrydion rhag ymweld â'u tai, yr oedd pobl yn cynnau pob tân yn eu cartrefi. Dechreuodd y flwyddyn Geltaidd Newydd ym mis Tachwedd, pan ddechreuodd y [[gaeaf]], y tymor tywyllaf ac oeraf. Yr oedd tymor y goleuni yn dechrau ar [[Calan Mai|Galan Mai]] sydd ar [[1 Mai]] heddiw.
 
Yr oedd amser Calan Gaeaf yn amser prysur iawn i'r bobl. Er mwyn paratoi at y tymor tywyll ac oer yr oedd yn rhaid casglu bwyd fel [[haidd]], [[ceirchen|ceirch]] a [[gwenith]], [[meipen|maip]], [[afal]]au a [[cneuen|chnau]]. Ac i'r bugeiliaid â'u hanifeiliaid yr oedd yn rhaid dychwelyd o'r ucheldiroedd; o'r 'hafod' i lawr i'r 'hendref'.