Moel Arthur: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
John Jones (sgwrs | cyfraniadau)
defod
Llinell 20:
}}
 
Bryn a [[bryngaer]] ym [[Bryniau Clwyd|Mryniau Clwyd]], [[Sir Ddinbych]], yw '''Moel Arthur''' (cyfeirnod OS: 145 660). Fe'i lleolir rhwng [[Llandyrnog]] (ger [[Dinbych]]) i'r gorllewin a [[Nannerch]] i'r dwyrain; {{gbmapping|SJ145660}}. I'r gogledddwyrain, fel pe'n ei wylio islaw saif yr uchaf o gopaon Bryniau Clwyd: [[Moel Famau]]. Yn wahanol i'r 5 bryngaer arall nid yw'n gwarchod bwlch, ac nid yw mewn lleoliad strategol filwrol o bwys; mae copahyn (a darganfyddiadau diweddar) yn arwain yr [[Penycloddiauarchaeoleg]]ydd i gredu fod arwyddocâd defodol i'r gaer.<ref>''Discovering a Welsh Landscape'' gan Ian Brown; tud 52-55</ref>
 
==Bryngaer==
 
Ar ben y bryn ceir bryngaer gron sylweddol o tua 2 hectar gyda mynediad iddi ar yr ochr ddwyreiniol. Mae'r muriau amddiffynnol yn troi i mewn ar eu hunain yn y fynedfa a cheir olion sy'n awgrymu dwy siambr warchod. Mae'r gwaith amddiffynol yn drawiadol, gyda chyfres o gloddiau syrth a ffosydd oddi amgylch pen y bryn. Y tu mewn i'r cyfan, yn arbennig ar yr ochr ddwyreiniol, ger y fynedfa, ceir sawl platfform lle ceid tai crwn o waith pren ar un adeg, yn ôl pob tebyg.