Thomas Gwynn Jones: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llinell 41:
 
==Bywgraffiad==
Cafodd T. Gwynn Jones ei addysg gynnar yn [[Dinbych|Ninbych]] ac [[Abergele]]. Daeth yn is-olygydd ''[[Baner ac Amserau Cymru]]'' (''Y Faner'') yn [[1890]]. Ysgrifennodd gofiant ardderchog i'r cyhoeddwr [[Plaid Ryddfrydol (DU)|Rhyddfrydol]] [[Thomas Gee]] sy'n dryll i'w oes yn ogystal â'i waith. Yn 1894 symudodd i Lerpwl a dod yn is-olygydd i [[Isaac Foulkes]]. Erbyn 1898 roedd yn is-olygydd ar ''[[Yr Herald]]'' a'r ''[[Caernarvon and Denbigh Herald]]''. Bu wedyn yn olygydd ar ''[[Papur Pawb|Bapur Pawb]]''. Yn 1908 bu'n o sylfeinwyr [[Clwb Awen a Chân]] yng Nghaernarfon]].
 
Aeth i weithio i [[Llyfrgell Genedlaethol Cymru|Lyfrgell Genedlaethol Cymru]] yn [[Aberystwyth]] ar ôl blynyddoedd o newyddiadura, ac wedyn yn ddarlithydd yn yr adran Gymraeg yng [[Prifysgol Aberystwyth|Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth]]. Yn [[1919]] daeth yn athro [[llenyddiaeth Gymraeg]] yn y coleg hwnnw.