Dydd Calan: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Delusion23 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
:''Gall [[Calan]] hefyd gyfeirio at y dydd cyntaf o'r mis: [[Calan Mai]], [[Calan Gaeaf]]''
 
'''Dydd Calan''' yw'r enw ar gyfer diwrnod cyntaf y flwyddyn, sef [[1 Ionawr]]. Gall y gair "calan" hefyd gyfeirio at ddydd cyntaf mis. Arferid credu nifer o goelion a oedd yn berthnasol i'r diwrnod cyntaf o'r flwyddyn e.e. arwyddocâd y person cyntaf i ddod dros trothwy'r drws. Ym [[Penfro|Mhenfro]] aethpwyd â dŵr o gwmpas y tai i'w ddiferyd dros y trigolion i sicrhau hapusrwydd am weddill y flwyddyn. Roedd [[hel calennig]] yn arferiad drwy Gymru benbaladr. Mewn ardaloedd eraill yr arferiad oedd i ddyn penddu ymweld â'r tŷ efo darn o lo; deuai hyn â lwc dda i'r trigolion.
 
Yn 1752 newidiwyd y dyddiad i'r un presennol; cyn hynny diwrnod cynta'r flwyddyn oedd 13 Ionawr<ref>[http://news.bbc.co.uk/welsh/hi/newsid_8450000/newsid_8454600/8454639.stm Gwefan y BBC]; Dathlu'r Hen Galan er gwaetha'r tywydd; adalwyd 05/101/2013</ref>. Mae rhai rhai ardaloedd yn dal i ddathlu'r [[Hen Galan]] e.e. [[Cwm Gwaun]] a [[Llandysul]] ar sail yr hen galendr Iwlaidd gafodd ei ddisodli ym 1752 gan galendr Gregori.<ref>[http://news.bbc.co.uk/welsh/hi/newsid_6260000/newsid_6262900/6262993.stm Gwefan y BBC]; Dathlu'r Hen Galan o hyd ; adalwyd 05/01/2013</ref>
Llinell 9:
 
:Mae dydd Calan wedi gwawrio
 
:Dydd tra hynod yw i gofio,
 
:Dydd i roddi, dydd i dderbyn,
 
:Yw’r trydydd dydd ar ddeg o’r flwyddyn.
 
 
:Rhowch yn hael i rai gwael,
 
:Rhowch yn hael i rai gwael,
 
:Pawb sy’n ffyddlon i roi rhoddion
 
:Yw’r rhai hynny sydd yn cael.<ref>[https://www.pgfl.org.uk/schools/bgf/casmael/web/mifumyncrwydro/html/bro_waldo_4.html Gwefan Bro Waldo]; Yr Hen Galan; adalwyd 05/01/2013</ref>
 
==Tarddiad y gair "Calan"==
Mae'r gair "calan" yn dod o'r gair [[Lladin]] ''calendae'' "y galwedig", yr enw ar gyfer diwrnod cyntaf pob mis yn y calendr Rhufeinig.
 
==Gweler hefyd==
Llinell 36 ⟶ 28:
*[[Calendr Hebraeg]]
*[[Calendr Islamaidd]]
 
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}
 
==Dolenni allanol==
* [http://www.casgliadywerincymru.co.uk/Collection/648-old-calan-gwaun-valley Gwefan Casgliady Werin]: Lluniau o blant tua 1961 yn hel calennig
 
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}
 
[[Categori:Gwyliau]]
[[Categori:Gwyliau Celtaidd]]
[[Categori:CalendrIonawr]]