Hen Goleg Prifysgol Aberystwyth: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
peth gwaith gweinyddu yn yr Hen Goleg o hyd
cost yr adeilad, enwau blaenorol, cywiro disgrifiad yr hen lun
Llinell 1:
{{Infobox building
| name = Hen Goleg Prifysgol Aberystwyth
| native_name = {{lang|cy|Hen Goleg Prifysgol Aberystwyth}}<br>''Castle House.''
| image = Yr_Hen_Goleg,_Prifysgol_Aberystwyth.jpg
| image_alt = Yr Hen Goleg, Prifysgol Aberystwyth
| image_size =
| caption = Yr Hen Goleg yn 2010
| former_names = Castle House,<br> Castle Hotel,<br>Coleg Aberystwyth,<br>Coleg Prifysgol Cymru Aberystwyth
| alternate_names =
| map_type = Cymru
Llinell 14:
| architectural_style = [[Adfywiad Gothig]]
| structural_system =
| cost = 45£80,000 milliono ffrancwariant BelgaiddThomas Savin, cwblhawyd gan Goleg Prifysgol Cymru
| location = [[Aberystwyth]], [[Ceredigion]]
| client =
Llinell 50:
Yr adeilad cyntaf i’w adeiladu ar y safle hwn oedd Castle House. Cynlluniwyd yr adeilad gan [[John Nash]] ar gais Syr Uvedale Price, a fynnai adeiladu tŷ pictiwrésg i’w wraig. Adeiladwyd y tŷ tua 1795<ref>{{dyf gwe |url=http://www.britishlistedbuildings.co.uk/wa-10251-university-college-of-wales-old-college-b |teitl=University College of Wales Old College Building, Aberystwyth |cyhoeddwr=www.britishlistedbuildings.co.uk |dyddiadcyrchiad=22 Mehefin 2014 }}</ref> ar ffurf triongl gyda thyrrau wythonglog ar bob pen iddo. Gwerthwyd yr adeilad sawl gwaith hyd y 1860au a’i ehangu yn y steil gwreiddiol. Erbyn hynny roedd dyfodiad y rheilffordd wedi denu nifer o wŷr busnes i ddechrau datblygu Aberystwyth yn le gwyliau. Yn eu plith yr oedd Thomas Sevin, a oedd yn gyfrifol am adeiladu’r rheilffordd o [[Machynlleth|Fachynlleth]] i Aberystwyth. Prynodd Castle House a mynd ati i’w ehangu a’i droi’n westy modern, moethus, gan gyflogi [[John Pollard Seddon|J. P. Seddon]] yn 1864 i gynllunio’r gwaith. Yr oedd yn ras wyllt arno i gwblhau’r gwaith adeiladu er mwyn gallu agor y gwesty. Oherwydd hyn, roedd y llu o weithwyr a gyflogwyd yn bwrw iddi’n gyflymach nag y gallai J. P. Seddon ddarparu cynlluniau manwl iddynt. Cyflogwyd dylunwyr i wneud cynlluniau wedi eu seilio ar fodel pren o waith J. P. Seddon. Mae ôl y brysio hwn i’w weld ar y cerrig, rhai cerfiedig a rhai heb eu cerfio, sydd i’w gweld ochr yn ochr ar fwa maen tu fewn i’r adeilad. Erbyn mis Mehefin 1865 roedd digon o waith wedi ei wneud i allu agor y Castle Hotel i ymwelwyr, wedi ei oleuo trwy ynni nwy. Ond roedd sefyllfa ariannol J. P. Seddon yn rhy fregus iddo gwblhau’r gwaith datbygu. Ar ôl gwario £80,000 ar y Castle Hotel, bu’n rhaid iddo rhoi’r gorau iddi a cheisio ei werthu.
 
[[Delwedd:The_college,_Aberystwyth.jpg|chwith|bawd|200px|Yr Hen Goleg yn 1885 gydag un o dyrrau wythonglog Castle House i'w weld uwchbenyn ochr pellagwynebu'r môr, tua chanol yr adeilad]]
Yr oedd prinder darpariaeth addysg bellach yng Nhymru yr adeg honno. Yr oedd [[Hugh Owen]] yn arwain yr ymdrech i sefydlu prifysgol i Gymru. Gyda chefnogaeth brwd y capeli anghydffurfiol, fe gasglwyd arian o bocedi gwerin Cymru, gan ddechrau gyda chwarelwyr gogledd Cymru. Erbyn canol 1865 roedd £5,000 wedi ei gasglu. Bachodd pwyllgor Hugh Owen y cyfle i brynu adeilad y Castle Hotel, gan dalu £10,000 amdano ym mis Mawrth 1867. Rhaid oedd casglu rhagor o arian eto cyn gallu agor y ‘Coleg Ger y Lli’ ar y safle hwn yn 1872. O hynny ymlaen byddai hanes yr adeilad yn ran anatod o hanes coleg Aberystwyth. Gwelodd yr adeilad sawl achlysur mawreddog, gan gynnwys dathlu sefydlu Prifysgol Cymru drwy siarter frenhinol yn 1896 ym mhresenoldeb [[Edward VII, brenin y Deyrnas Unedig|Tywysog Cymru]] a llu o fawrion.