Afon Cynfal: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llinell 2:
[[Afon]] fynyddig ym [[Meirionnydd]], de [[Gwynedd]], yw '''Afon Cynfal'''. Mae hi'n dwyn cysylltiad â sawl traddodiad [[llên gwerin]]. Mae hi'n rhedeg o gyffiniau'r [[Migneint]] i ymuno ag [[Afon Dwyryd]]. Ei hyd yw tua wyth milltir.
==Cwrs
Mae Afon Cynfal yn tarddu ar y Migneint, y tir [[cors]]iog uchel agored rhwng [[Ffestiniog]] ac [[Ysbyty Ifan]]. Mae'n cychwyn ei thaith fel Nant y Pistyll-gwyn, hanner milltir i'r de o [[Llyn Conwy|Lyn Conwy]] yng nghysgod Graig-goch (588m). Ar ôl llifo am filltir heibio i'r Garnedd a Charreg y Foel-gron mae hi'n mynd dan [[Pont|bont]] fach ar y B4407. Daw ffrwd fach Afon Gam i mewn iddi o'i tharddle ar y Migneint. O fewn chwarter milltir mae afon fach arall, Nant y Groes, yn ymuno â hi ger Pont yr Afon Gam; tarddle'r afonig honno yw corsdir ar y Migneint ger [[Llyn y Dywarchen, Migneint|Llyn y Dywarchen]].<ref>Map OS 1:50,000 Landranger 124 Dolgellau.</ref>
Fymryn is i lawr o'r bont mae'r afon yn
==Llech Gronw==
|