Peiran: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda ''''Peirannau''' yw un o nodweddion amlycaf erydiad rhewlifol mewn tirweddau mynyddig. Mae’r tirffurf arbennig hwn wedi’i gyffelybu i gadair fr...'
 
B dolen Llyn Glaslyn
Llinell 6:
Am y rhan fwyaf o beirannau mae gwerth rhif-k rhwng 0.5 a 2. Pan fo k = 2, mae’r basn dan gysgod y cefnfur yn ddwfn a’r cefnfur ei hun yn serth; pan fo k = 0.5, mae’r peiran yn fas ac iddo lawr sydd naill ai’n wastad neu’n gogwyddo ar i waered. Felly, mae gwerthoedd uchel k yn cyfateb i beirannau gorddwfn, datblygedig iawn. Fodd bynnag, ni ellir priodoli ffurfiant y fath beirannau i un cyfnod rhewlifol penodol, gan fod y rhan fwyaf ohonynt yn gynnyrch erydiad yn ystod cyfres o rewlifiannau. At hynny, mae eu hunion ffurf yn dibynnu ar litholeg ac adeiledd y creigiau y naddwyd y peirannau ohonynt.
 
Mae’r hydbroffil a ddisgrifir gan y rhif k yn gynnyrch erydiad tanrewlifol (pliciad a sgrafelliad [''quarrying and abrasion'']) godre’r cefnfur a llawr y peiran, tra bod enciliad y cefnfur yn ganlyniad i waith rhewi-dadmer a [[mas-symudiad|más-symudiad]] sy’n cyflenwi creigiau rhewfriw i’r [[rhewlif]] a’i arfogi â llwyth o ddeunydd sgraffiniol. Er mwyn i’r erydiad tanrewlifol fod yn gwbl effeithiol y mae’n rhaid bod y rhewlif peiran yn meddu ar wadn cynnes, gan mai presenoldeb dŵr tawdd sy’n sbarduno llif cylchlithro (''rotational slip'') yr iâ sy’n esgor ar greicafnau. Mae creicafnau gorddwfn yn tystio i erydiad tanrewlifol tra effeithiol, e.e. mae [[Llyn Glaslyn|Glaslyn]], wrth odre’r [[yr Wyddfa|Wyddfa]], yn llenwi creicafn ac iddo ddyfnder o oddeutu 39 m.
 
Mae’r ddamcaniaeth fod pryd a gwedd peirannau yn esblygu gyda threiglad amser yn seiliedig ar y dybiaeth fod pob poblogaeth o dirffurfiau esblygol yn cynnwys nifer o enghreifftiau sy’n cynrychioli gwahanol gamau yn eu hesblygiad. Ar sail y modelau a awgrymwyd, ymddengys fod uwcholwg a hirbroffil peiran yn mynd yn fwyfwy caeedig wrth i’w faint gynyddu o ganlyniad i enciliad parhaus y cefnfur a thyrchu’r llawr.