John Rhŷs: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
llun
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
Ysgolhaig [[Cymraeg]] a [[Celtiaid|Cheltaidd]] oedd '''John Rhŷs''' (ei orgraff arferol ei hun) neu '''John Rhys''' ([[21 Mehefin]], [[1840]] - [[17 Rhagfyr]], [[1915]]), a aned ger [[Ponterwyd]], [[Ceredigion]]. Roedd yn un o'r ysgolheigion Celtaidd a golygyddion testunau [[Cymraeg Canol]] gorau ei ddydd.
 
==Hanes==
Llinell 8:
Daeth i adnabod Syr [[John Morris-Jones]] yn Rhydychen a gweithiasant gyda'i gilydd ar olygiad o ''[[Llyfr yr Ancr|Lyfr yr Ancr]]''. Roedd yn ieithydd penigamp; ei gyfrol ''Lectures on Welsh Philology'' (1877) oedd y gwaith cyntaf i ddefnyddio dulliau newydd [[ieithyddiaeth]] gymharol i astudio hanes yr iaith Gymraeg. Gweithiodd ar y cyd â [[John Gwenogvryn Evans]] i olygu cyfres bwysig o destunau [[Cymraeg Canol]], gan gynnwys [[Llyfr Coch Hergest]] a [[Llyfr Llandaf]].
 
Ysgrifennodd nifer o lyfrau ar hanes traddodiadol, [[llên gwerin]] a [[mytholeg Geltaidd]] yn ogystal, gan gynnwys y cyfrolau pwysig ''Celtic Britain'' (1882) a ''Celtic Folkore, Welsh and Manx'' (1901). Er gwaethaf eu gwendidau - beiau'r oes yn bennaf - mae'r cyfrolau hyn yn gerrig milltir pwysig yn hanes ysgolheictod Celtaidd.
 
==Llyfryddiaeth==