The Catcher in the Rye: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Man olygu using AWB
Rotlink (sgwrs | cyfraniadau)
B fixing dead links
Llinell 1:
[[Delwedd:Rye catcher.jpg|bawd|dde|Clawr yr argraffiad cyntaf]]
Mae '''The Catcher in the Rye''' (1951) yn [[nofel]] gan [[J. D. Salinger]]. Yn wreiddiol, cafodd ei chyhoeddi ar gyfer oedolion <ref>[http://web.archive.org/web/20080111064635/http://www.accessmylibrary.com/coms2/summary_0286-28671475_ITM Erthygl Michael Cart (2000-11-15). "Famous Firsts. (llenyddiaeth ar gyfer oedolion ifanc)", Booklist. Rhestrwyd 28 Ionawr 2009]</ref> ond bellach mae'n rhan gyffredin o feysydd llafur ysgolion uwchradd a cholegau. Mae'r nofel wedi ei chyfieithu i'r mwyafrif o brif ieithoedd y byd <ref>[Magill, Frank N. (1991). "J. D. Salinger". Magill's Survey of American Literature. New York: Marshall Cavendish Corporation. pp. 1803. ISBN 1-85435-437-X. ]</ref>. Gwerthir oddeutu 250,000 o gopïau yn flynyddol, gyda'r cyfanswm o'r nifer o gopïau sydd wedi'u gwerthu hyd yn hyn dros chwechdeg pum miliwn. Mae gwrth-arwr y nofel, Holden Caulfield, wedi datblygu i fod yn [[eicon]] ar gyfer arddegwyr gwrthryfelgar.
 
Dewisodd cylchgrawn [[Time (cylchgrawn)|Time]] y nofel fel un o'r nofelau Saesneg gorau a ysgrifennwyd rhwng 1923 a 2005 <ref>[http://www.time.com/time/2005/100books/the_complete_list.html Erthygl o wefan cylchgrawn Time]</ref> a chan y Llyfrgell Fodern a'i darllenwyr fel un o'r cant o nofelau gorau o'r [[20fed ganrif]]. Mae nifer yn yr [[Unol Daleithiau]] wedi ceisio herio a chwestiynu cynnwys y nofel yn sgîl ei hiaith gref a'r modd y mae'n darlunio rhywioldeb a phryderon dwys pobl ifanc yn eu glasoed.