Hebraeg: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 4:
Er mai'r mwyaf amlwg ydy hi, un ymhlith nifer o ieithoedd Iddewig yw Hebraeg. Ymhlith y lleill y mae [[Iddew-Almaeneg]] neu Yiddish-Daitsch a [[Ladino]] (Sbaeneg Iddewig). Cafodd y rhain eu defnyddio gan wahanol gymunedau Iddewig tra bod Hebraeg llafar yn farw, ond crebachu bu eu hanes yn sgil yr adfywiad yn nefnydd yr Hebraeg, gan adael lleiafrifoedd bychain iawn o siaradwyr yr ieithoedd hyn, os o gwbl.
 
Un o wyrthiau ieithyddol yr ugeinfed ganrif oedd adfywiad Hebraeg, na fu'n iaith gyntaf i neb ers canrifoedd. Mae mewnfudwyr i [[Israel]], o [[Ewrop]], [[Unol Daleithiau America]], yr hen [[Undeb Sofietaidd]] ac [[Affrica]], er enghraifft yn cael eu trochi yn yr Hebraeg trwy gyrsiau [[Wlpan]]. Mae llyfr gan [[Norman Berdichevsky]], 'Modern hebrew: The Past Present and Future of a Revitalized Language' yn cyfeirio'n fyr at ddylanwad y mudiad Hebraeg ar y Gymraeg.
 
Ysgrifennir Hebraeg yn ei [[gwyddor Hebraeg|gwyddor]] ei hun, o'r dde i'r chwith. Mae 22 symbol yn yr wyddor, pob un yn [[cytsain|gytsain]]. Dynodir [[llafariad|llafariaid]] gan system o bwyntiau, ond fel arfer dim ond mewn cyhoeddiadau i blant a dysgwyr y'u defnyddir.