Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "William Wallace"

Ychwanegwyd 110 beit ,  15 o flynyddoedd yn ôl
cat
B (robot Modifying: he:ויליאם וולאס)
(cat)
[[Delwedd:William Wallace.jpg|bawd|250px|William Wallace]]
 
Roedd Syr '''William Wallace''' (c.[[1270]] - [[23 Awst]], [[1305]]) yn ffigwr allweddol yn y gwrthwynebiad Albanaidd i ymgais brenin [[Lloegr]], [[Edward I, brenin Lloegr|Edward I]], i goncro'r [[Alban]].
 
Mae ansicrwydd lle ganed Wallace; yn ôl y traddodiad yn [[Elderslie]], gerllaw [[Paisley]]. Ymddengys ei fod o deulu o'r boneddigion llai; yn ôl traddodiad roedd yn fab i Sir Malcolm Wallace o Elderslie, ond enwir ei dad fel Alan Wallace hefyd. Awgrymwyd fod y cyfenw "Wallace" yn dynodi fod y teulu yn ddisgynyddion aelodau o un o deyrnasoedd Brythoneg [[Yr Hen Ogledd]].
Rywryd tua'r adeg yma, dechreuodd Wallace ei ymgyrchoedd. Lladdodd ef a'i deulu [[William Heselrig]], Siryf Seisnig Lanark, ym mis Mai [[1297]], ac enillodd nifer o fuddugoliaethau yn ystod y flwyddyn. Ar [[11 Medi]], [[1297]], enillodd Wallace fuddugoliaeth dros y Saeson ym [[Brwydr Pont Stirling|Mrwydr Pont Stirling]], pan geisiodd y cadfridog Seisnig, Iarll Surrey, groesi pont gul. Ymosododd Wallace pan oedd y fyddin Seisnig ar hanner croesi, a bu lladdfa fawr.
 
[[Image:Wfm wallace monument.jpg|250px|thumbnail|left|Cofgolofn William Wallace yn Stirling]]
 
Yn 1298 gorchfygwyd Wallace gan y Saeson ym [[Brwydr Falkirk (1298)|Mrwydr Falkirk]]. Llwyddodd Wallace ei hun i ddianc, ond penderfynodd ymddiswyddo fel Gwarcheidwad yr Alban. Ymddengys iddo fynd i [[Ffrainc]] tua diwedd 1298 i geisio cefnogaeth gan frenin Ffrainc. Dychwelodd i'r Alban yn 1303. Yr oedd yr Alban yn llwyr ym meddiant Edward I, a bu'r Saeson yn ymdrechu'n ddyfal i ddal Wallace. Ar [[5 Awst]] [[1305]] daliwyd ef trwy frad, a throsglwyddodd John de Menteith ef i ddwylo Edward. Aed ag ef i [[Llundain|Lundain]] a'i roi ar brawf am deyrnfradwriaeth. Ateb Wallace oedd na allai fod yn fradwr i Edward, gan na fu Edward erioed yn frenin arno. Cafwyd ef yn euog, ac ar [[22 Awst]] [[1305]], dienyddiwyd ef yn Smithfield. Chwarterwyd ei gorff a gyrru'r rhannau i'w harddangos yn [[Newcastle upon Tyne|Newcastle]], [[Berwick-upon-Tweed|Berwick]], [[Stirling]], ac [[Aberdeen]], tra gosodwyd ei ben ar bicell ar [[Pont Llundain|Bont Llundain]].
 
Yn 1298 gorchfygwyd Wallace gan y Saeson ym [[Brwydr Falkirk (1298)|Mrwydr Falkirk]]. Llwyddodd Wallace ei hun i ddianc, ond penderfynodd ymddiswyddo fel Gwarcheidwad yr Alban. Ymddengys iddo fynd i [[Ffrainc]] tua diwedd 1298 i geisio cefnogaeth gan frenin Ffrainc. Dychwelodd i'r Alban yn 1303. Yr oedd yr Alban yn llwyr ym meddiant Edward I, a bu'r Saeson yn ymdrechu'n ddyfal i ddal Wallace. Ar [[5 Awst]] [[1305]] daliwyd ef trwy frad, a throsglwyddodd John de Menteith ef i ddwylo Edward. Aed ag ef i [[Llundain|Lundain]] a'i roi ar brawf am deyrnfradwriaeth. Ateb Wallace oedd na allai fod yn fradwr i Edward, gan na fu Edward erioed yn frenin arno. Cafwyd ef yn euog, ac ar [[22 Awst]] [[1305]], dienyddiwyd ef yn [[Smithfield]]. Chwarterwyd ei gorff a gyrru'r rhannau i'w harddangos yn [[Newcastle upon Tyne|Newcastle]], [[Berwick-upon-Tweed|Berwick]], [[Stirling]], ac [[Aberdeen]], tra gosodwyd ei ben ar bicell ar [[Pont Llundain|Bont Llundain]].
 
[[Categori:Hanes yr Alban|Wallace, William]]
[[Categori:Marwolaethau 1305|Wallace, William]]
[[Categori:Albanwyr|Wallace, William]]
 
[[ar:وليام والاس]]