Hen Oes y Cerrig: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
ehangu
ehangu
Llinell 1:
{{Cyfnodau cynhanes}}
'''Hen Oes y Cerrig''' neu'r '''Paleolithig''' yw'r cynharaf o dri chyfnod [[Oes y Cerrig]], sy'n cael ei dilyn gan [[Oes Ganol y Cerrig]] ac yna [[Oes Newydd y Cerrig]]: rhwng 227,000 [[CP]] (Cyn y Presennol) a 10,000 CP sef yn fras, chwarter ola'r cyfnod daearegol a elwir yn [[Pleistosen]]. Dyma'r Oes ble gwelwyd offer carreg yn cael ei datblygu e.e. pen saeth neu waywffon, cerfiadau o asgwrn i gau clogyn, crafwyr lledr o garreg, neu fwyell i dorri coed. Ceir nifer o'r rhain ledled Cymru gan gynnwys [[Ogof Lyncs]] ger [[Eryrys]], [[Dyffryn Clwyd]] lle cafwyd pen picell a wnaed o asgwrn ac a ddyddiwyd i tua 11,700 [[CP]].<ref>Discovering a Welsh Landscape gan Ian Brown; Windgather Press; 2004; tud. 25</ref>
 
Rhaid cofio fod yr hinsawdd yn newid, fel y mae wedi gwneud ers dechrau amser. O ganlyniad mae'r tyfiant wedi newid. Roedd Prydain bryd hyn yn ymdebygu i'r [[Artig]] gyda lefel y môr 100 metr yn is nag yw heddiw a'i thir yn cysylltu gydag Ewrop. Yn ystod yr adegau rhyng-rhewlifol, codai lefel y môr a deuai Prydain unwaith eto'n ynys. Ar adegau byddai Prydain fwy neu lai wedi'i gorchuddio dan rew, er bod rhan ohoni'n dir. Wrth i'r tywydd newid, fel hyn, cafwyd cryn fynd a dod: pan waethygai'r tywydd, ciliant i'r de. Oherwydd y rhewlifau enfawr, mae'r rhan fwyaf o'r dytiolaeth o fywyd wedi'i sgwrio nes diflannu am byth. Dim ond ers y 18,000 o flynyddoedd diwethaf (yr oes rhew diwethaf) y gwelir tystiolaeth gadarn. Un o'r eithriadau yw [[Ogof Bontnewydd]] ger [[Llanelwy]] yn [[Dyffryn Clwyd|Nyffryn Clwyd]] lle ceir olion dynol sy'n dyddio'n ôl i tua 225,000 CP, sef dechrau Hen Oes y Cerrig.<ref>''Discovering a Welsh Landscape'' gan Ian Brown; ''Windgather Press''; 2004; tud. 22</ref>