Lithwaneg: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
iaith
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Iaith Faltig Ddwyreiniol yw'r '''Lithwaneg''' a siaredir yn bennaf yn Lithwania gan y Lithwaniaid. Mae ganddi dros 3 mil...' |
(Dim gwahaniaeth)
|
Fersiwn yn ôl 16:18, 27 Awst 2014
Iaith Faltig Ddwyreiniol yw'r Lithwaneg a siaredir yn bennaf yn Lithwania gan y Lithwaniaid. Mae ganddi dros 3 miliwn o siaradwyr brodorol, 2.8 miliwn ohonynt yn Lithwania.[1]
Lithwaneg yw'r iaith fwyaf "hynafaidd" o'r holl ieithoedd Indo-Ewropeaidd byw, hynny yw hon yw'r iaith sydd wedi newid lleiaf yn ystod ei hanes. O ganlyniad mae gan y Lithwaneg nifer o nodweddion yr iaith Broto-Indo-Ewropeg.[2]
Mae Lithwaneg yn un o ieithoedd swyddogol yr Undeb Ewropeaidd.
Cyfeiriadau
- ↑ (Saesneg) Lithuanian. Ethnologue (2012). Adalwyd ar 27 Awst 2014.
- ↑ (Saesneg) Lithuanian language. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 27 Awst 2014.