Cwmsymlog: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
ychwanegu categori
B cywiro'r llun
Llinell 21:
Saif y SoDdGA ar dir oedd unwaith yn fwynglawdd metalau, gan gynnwys plwm ac arian. Mae'r canran uchel o fetalau yn y tir gwastraff yn wenwynig i lawer o lystyfiant y fro. Ond y mae rhywogaethau o gen a rhedyn prin a phlanhigion gweundir wedi ymgartrefu ar yr olion diwydiannol ar y safle hwn. At hyn mae cynefinoedd eraill o ddiddordeb ar y SoDdGA. Mae'r rhain yn cynnwys glaswelltir asidaidd, gweundir, mannau corsiog a cheuffyrdd sy'n gysylltiedig â'r mwyngloddio. Mae'r gweirlöyn llwyd a'r ceiliog rhedyn brith hefyd i'w cael yno.
 
[[Delwedd:A_surviving_mine_chimney_in_Cwmsymlog_-_geograph.org.uk_-_928352.jpg|chwith|bawd|250px|henHen simne'r mwynfa arian a phlwm Cwmsymlogmwynglawdd]]
Dynodwyd y safle yn SoDdGA yn ôl gofynion y Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 yn 1988. Mae hen simne ffwrnais y mwynglawdd yn sefyll ar y safle. Mae'r simne yn adeilad rhestredig Gradd II. Mae mynediad agored i dir y safle. Mae peth ohono'n eiddo i Gyngor Sir Ceredigion a pheth i unigolion.