C.P.D. Derwyddon Cefn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 22:
Ar ôl uniad y ddau glwb yn 1992, fe aethwyd ati i wneud cais i ymuno â'r [[Cynghrair Undebol|Gynghrair Undebol]]. Ar ôl sawl tymor o chwarae ynddi, fe enillon nhw'r gynhrair yn 1999ac felly'n ennill dyrchafiaeth i'r [[Cynghrair Cymru|Gynghrair Cenedlaethol]]. Roedd apwyntiad Steve O'Shagnessey fel rheolwr yn 2001 yn drobwynt yn hanes y Clwb. Fe gyrrhaeddod y clwb rownd gyn-derfynnol [[Cwpan Cymru]] ar ôl buddugoliaethau yn erbyn Llangefni-Glantraeth, [[C.P.D. Rhuthun|Rhuthun]], Helygain a'r [[C.P.D. Y Trallwng|Trallwng]]. Fe ddaeth y rhediad yna i ben gyda colled o 5-0 ar y Belle Vue, [[Rhyl]] yn erbyn [[C.P.D. Dinas Bangor|Bangor]].
Daeth trafferthion ariannol i'r amlwg y tymor canlynol gyda chwaraewyr ddim yn cael eu talu am wythnosau, ond llwyddodo y tîm i gorffen mewn safle parchus iawn sef 12fed ar ddiwedd y tymor.
Er ei record dda fel rheolwr, daeth gyrfa O'Shaugnessey ar Blas Kynaston i ben pan gafodd ei ddiarddel ar Ebrill 18fed, 2004. Ers hynny, mae wedi bod yn frwydyr cyson i aros yn y gynghrair. Daeth bendith i'r clwb ar ddiwedd tymor 2005, oherwydd er iddynt orffen yn y ddau isaf, nid oedd rhaid iddynt ostwng i'r [[Cynghrair Undebol|Gynghrair Undebol]] oherwydd gwrthododd [[C.P.D. Bwcle|Fwcle]] y gwahoddiad am ddyrchafiad.
Cyn Reolwr y clwb yw un o arwyr clwb pêl-droed [[C.P.D. Wrecsam|Wrecsam]], Dixie McNeil. Fe ymddiswyddodd ar ddiwedd tymor 2006/07, ac yn ei le daeth y tim rheoli o [[Waynne Phillips]] a [[Lee Jones]], dau gyn-chwaraewr gyda'r Clwb.