Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Arthur Griffith"

Ychwanegwyd 11 beit ,  12 o flynyddoedd yn ôl
B
dim crynodeb golygu
(Tudalen newydd: bawd|250px|Arthur Griffith | Roedd '''Arthur Griffith''' (Gwyddeleg: Art Ó Gríobhtha; 31 Mawrth, 1871 - 12 Awst, 1922) oedd sylfaenydd ...)
 
B
Yn dilyn [[Gwrthryfel y Pasg]] bu cynnydd mawr yn y gefnogaeth i Sinn Féin. Etholwyd Griffith yn aelod seneddol dros Ddwyrain [[Cavan]] mewn is-etholiad yng nghanol 1918, ac yn yr etholiad cyffredinol ddiwedd y flwyddyn enillodd Sinn Féin fwyafrif mawr o seddau Iwerddon. Gwrthodasant fynd i'r senedd, gan sefydlu senedd Wyddelig [[Dáil Éireann (1919-1922)|Dáil Éireann]]. Dilynwyd hyn gan ryfel yn erbyn y fyddin Brydeinig. Carcharwyd Griffith am gyfnod yn 1921.
 
Ym mis Hydref 1921, gofynodd yr Arlywydd [[Éamon de Valera]] iddo fod yn arweinydd y tîm Gwyddelig yn y trafodaethau gyda'r Llywodraeth Brydeinig. Ar ôl llawer o fargeinio daethpwyd i gytundeb cyn diwedd y flwyddyn; cyfaddawd o ran mai statws dominiwn oedd yn cael ei gynnig yn hytrach na gweriniaeth. Ymddiswyddodd de Valera mewn protest, a daeth Griffith yn Arlywydd, gyda [[Michael Collins]] yn bennaeth y llywodraeth. Erbyn hyn roedd iechyd Griffith yn dirywio, a bu farw ar [[12 Awst]], [[1922]], yn 50 oed. Claddwyd ef ym [[Mynwent Glasnevin]].
 
[[Categori:Hanes Iwerddon|Griffith, Arthur]]
37,236

golygiad