Niccolò Machiavelli: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
wedi symud testun i Il Principe
Llinell 2:
 
Diplomydd, athronydd gwleidyddol, bardd a dramodydd Eidalaidd oedd '''Niccolò Machiavelli''' ([[1469]]–[[1527]]). Roedd yn byw mewn cyfnod cyffrous iawn yn hanes yr Eidal. Nid oedd yr Eidal yn unedig ar y pryd, yn hytrach wedi ei rhannu i fyny i lawer o dywysogaethau megis [[Fflorens]], [[Fenis]] a [[Rhufain]]. Roedd yn gyfnod o frwydro rhwng y Tywysogaethau, [[Sbaen]] a [[Ffrainc]].
 
Ysgrifennodd y llyfr ''[[Il Principe]]'', a gyhoeddwyd ym 1532 wedi ei farw.
 
== Hanes Machiavelli a Fflorens o 1494 ymlaen ==
Llinell 12 ⟶ 14:
 
[[File:Machiavel Offices Florence.jpg|300px|bawd|Niccolò Machiavelli]]
 
== ''Y Tywysog'' ==
Rhyw fath o lawlyfr i dywysog yn dangos sut i lwyddo yw'r gwaith. Yn bennaf yn trafod yng nghyd-destun tywysogaethau yn hytrach nag yn nhermau gwladwriaethau. Safbwynt yr un sydd mewn grym sydd i'w weld yn ''Il Principe'' ('Y Tywysog') - bod yn gymorth i'r arweinydd yw bwriad Machiavelli.
 
=== Y Dywysogaeth ===
Dadleua mai prif sylfaen unrhyw dywysogaeth ydy cyfreithiau ac arfau da. Cred ei bod hi'n amhosib cael cyfreithiau da heb arfau da. Felly rhaid canolbwyntio ar sut i gael arfau da. Nid ydy gwladwriaeth mynd i oroesi heb fyddin gref.
 
=== Syniadau gwleidyddol ===
Ym mhennod 18 ceir esiampl o werthoedd gwleidyddol Machiavelli. Yna ceir trafodaeth ar a ddylai gwleidyddion gadw ei gair, mae'n dod i gasgliad nad oes rhaid. Noda ei bod hi'n ddoeth iddo gadw at ei air ond beth sy'n bwysig ydy iddo ddefnyddio'r grym sydd dan ei awdurdod i gadw trefn. Mae barn Machiavelli ar natur ddynol yn isel iawn. Nid oes rhaid i'r tywysog gadw at ei air oherwydd bod dynion yn wael ac na wnânt hwythau gadw at eu gair chwaith.
 
=== Yr Arweinydd ===
Cred Machiavelli fod rhaid i'r tywysog wneud mwy na phlesio ei bobl yn unig i aros mewn grym. Noda ei bod hi'n well i'r arweinydd gael ei ofni yn hytrach na'u garu. Dadleua fod ofn yn creu mwy o deyrngarwch; mae modd torri cysylltiad cariad os ydyw o fantais i ddyn, ond mae ofn yn cryfhau oherwydd yr ofn o gosb - tacteg effeithiol. Ni ddylai'r tywysog boeni os cai enw gwael am fod yn greulon.
Wedi dweud hynny ni ddylid defnyddio grym rhywsut rhywsut, rhaid ei gadw at ddefnydd effeithiol; ei ddefnyddio o dro i dro er mwyn atgoffa pawb gan bwy mae'r awdurdod.
 
=== Hanes – ''Virtu'' a ''Fortuna'' ===
Mae syniadau Machiavelli am hanes yn troi o amgylch ''Virtu'' a ''Fortuna''
* ''Virtu'' = Rhinwedd/Dawn
* ''Fortuna'' = Ffawd/Lwc
Cred Machiavelli fod y ddau ffactor yn cael ei amlygu mewn hanes. Cred [[Awstin o Hippo]] mae dim ond Fortuna sydd ar waith, ond cred Machiavelli fod ewyllys rhydd dyn (''Virtu'') yn effeithio 50/50 gyda ffawd (''fortuna''). Cred Machiavelli fod gan yr arweinydd ddawn a bod modd iddo droi sefyllfaoedd (a hanes) i'w fantais trwy virtu. Noda hefyd fod fortuna yn ffafrio dynion ifanc oherwydd eu bod nhw llai ansicr yn eu gweithredoedd - felly cred Machiavelli fod arweinydd ifanc yn arweinydd effeithiol.
 
=== Uno'r Eidal ===
Ar dudalennau ''Y Tywysog'' mae Macchiavelli yn sôn am uno'r Eidal. Mae'n erfyn ar i'r holl Dywysogion arwain yr Eidal allan o'r sefyllfa roedd hi ynddi.
 
== Dolenni allanol ==