Antonin Artaud: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Racconish (sgwrs | cyfraniadau)
img
Llinell 3:
 
== Cefndir ==
Ganwyd Artaud ym [[Marseille]], [[Ffrainc]], yn fab i Euphrasie Alpas a Antoine-roi Artaud. Roedd ei rieni ill dau yn frodorion o [[Smyrna]], [[Twrci]] sef [[Izmir]] fodern. Ganwyd naw o blant i'w rieni, ond dim ond Antonin ac un o'i chwiorydd lwyddodd i oroesi euei plentyndod. Fe effeithwyd Artaud gan [[meningitis|feningitis]] difrifol pan oedd ond yn bedair mlwydd oed. Canlyniad hyn oedd bod ganddo natur nerfus a phiwis trwy gydol ei arddegau. Roedd hefyd yn dioddef o [[niwralgia]], atal-dweud ac [[iselder ysbryd]] difrifol. Fe drinwyd y cyflwr yma efo defnydd o [[opiwm]] - canlyniad hyn oedd bod Artaud yn gaeth iddo trwy weddill ei fywyd.
 
Fe benderfynnodd ei rieni i yrru euei mab trallodus i [[iechydfa]] am gyfnodau hir yn ystod ei ieuenctid. Darllennodd yr Artaud ifanc waith sawl awdur, megis [[Arthur Rimbaud]], [[Charles Baudelaire]] ac [[Edgar Allan Poe]]. Ym mis Mai 1919, fe rhagnodwyd [[lawdanwm]] iddo gan gyfarwyddwr yr iechydfa, ag arweiniodd Artaud i fod yn gaeth i'r cyffur hwnnw hefyd, ynghyd a sawl cyffur arall.
 
{{DEFAULTSORT:Artaud, Antonin}}