Rhamantiaeth: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
cyfieithu cyflwyniad yr erthygl Saesneg
 
Dim crynodeb golygu
Llinell 16:
| caption3 = ''Der Morgen'' gan [[Philipp Otto Runge]] (1808).
}}
Mudiad celfyddydol, llenyddol, a deallusol a ddechreuodd yn Ewrop ar ddiwedd y 18fed ganrif ac yr oedd ar ei anterth o 1800 hyd 1850 oedd '''Rhamantiaeth'''. Roedd yn rhannol yn adwaith i'r [[Chwyldro Diwydiannol]],<ref>{{dyf Britannica |url=http://www.britannica.com/EBchecked/topic/508675/Romanticism |teitl=Romanticism |dyddiadcyrchiad=31 Awst 2014 }}</ref> ond hefyd yn wrthryfel yn erbyn normau cymdeithasol a gwleidyddol aristocrataidd yn [[Oes yr Oleuo]] ac yn adwaith i'r [[rhesymoli (cymdeithaseg)|rhesymoliresymoli]] gwyddonol o natur.<ref name="Casey">{{cite web | last = Casey | first = Christopher | date = October 30, 2008 | title = "Grecian Grandeurs and the Rude Wasting of Old Time": Britain, the Elgin Marbles, and Post-Revolutionary Hellenism | work = Foundations. Volume III, Number 1 | url = http://web.archive.org/web/20090513053304/http://ww2.jhu.edu/foundations/?p=8| accessdate = 2014-05-14 }}</ref> Yn bennaf yr oedd yn fudiad celfyddydol, cerddorol, a llenyddol, ond cafodd hefyd effaith fawr ar [[hanesyddiaeth]],<ref>David Levin, ''History as Romantic Art: Bancroft, Prescott, and Parkman'' (1967)</ref> addysg<ref>Gerald Lee Gutek, ''A history of the Western educational experience'' (1987) ch. 12 on [[Johann Heinrich Pestalozzi]]</ref> a'r [[gwyddorau naturiol]].<ref>Ashton Nichols, "Roaring Alligators and Burning Tygers: Poetry and Science from William Bartram to Charles Darwin," ''Proceedings of the American Philosophical Society'' 2005 149(3): 304–315</ref> Roedd ei heffaith ar wleidyddiaeth yn eang ac yn gymhleth; ar ei hanterth fe'i gysylltir â [[rhyddfrydiaeth]] a [[radicaliaeth (hanesyddol)|radicaliaeth]], ond roedd ei effaithheffaith hir-dymor ar dwf [[cenedlaetholdeb]] yn bwysicach.
 
Dilysodd y mudiad emosiwn cryf fel ffynhonnell o'ry profiad [[estheteg|esthetig]], gan roi pwyslais newydd ar emosiynau megis pryder, ofn, ac arswyd, yn enwedig yr hyn a deimlir wrth ymdrin â'r [[arddunol]] yn natur a'i nodweddion darluniadwy. Aruchelwyd [[celfyddyd werin]] a thraddodiadau hynafol, gwnaed digymhellrwydd yn nodwedd ddymunol (er enghraifft yr [[impromptu]], neu'r darn difyfyr cerddorol), a dadleuwyd dros [[epistemoleg]] naturiol wrth drafod gweithgareddau dynoliaeth yn nhermau iaith a thraddodiad. Estynodd Rhamantiaeth y tu hwnt i fodelau delfrydol [[rhesymoliaeth]] a [[clasuriaeth|chlasuriaeth]] gan adfywio [[canoloesoldeb]] yn nghelfyddyd a llenyddiaeth i geisio dianc rhag cyfyngiadau'r oes a ddaw o dwf poblogaeth, [[blerdwf]], a [[diwydiannaeth]]. Cofleidiodd Rhamantiaeth yr estron, y dieithr, a'r pell mewn modd a ystyrir yn fwy wirioneddol na'r arddull ''[[chinoiserie]]'' o'r oes [[rococo]].
 
Er bod gwreiddiau Rhamantiaeth yn y mudiad Almaenig ''[[Sturm und Drang]]'', a werthfawrogodd sythwelediad ac emosiwn yn hytrach na rhesymoliaeth yr Oleuedigaeth, bufu'r digwyddiadau a'r ideolegau a arweiniodd at [[y Chwyldro Ffrengig]] yn plannu hadau'r mudiad Rhamantaidd a'r [[Gwrth-Oleuedigaeth]]. Dihangfa rhag gwirioneddau'r cyfnod oedd Rhamantiaeth, ac yn ail hanner y 19eg ganrif cynigwyd [[realaeth (celfyddyd)|realaeth]] yn gyferbyn i Ramantiaeth. Rhoddwyd gwerth uchel i gampau [[unigoliaeth|unigolwyr]] ac artistiaid "arwrol" a honnwyd iddynt arloesi newidiadau i wella cymdeithas. Bu'r mudiad hefyd yn tynnu sylw at ddychymyg yr unigolyn fel awdurdod beirniadol oedd yn rhydd rhag syniadau clasurol parthed celfyddyd. Trodd Rhamantiaeth at anocheledd naturiol a hanesyddol, y ''[[Zeitgeist]]'', wrth fynegi ei syniadau.
 
== Gweler hefyd ==