Wicipedia:Polisïau a chanllawiau: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Categori:Polisi Wicipedia
Wicipedia:Cynnwys cyfyngedig
Llinell 11:
Dylai erthyglau gael eu hysgrifennu o [[Wicipedia:safbwynt niwtral|safbwynt niwtral]], sy'n golygu y dylai'r erthygl gynrychioli o leiaf dwy farn wahanol, a hynny yn deg ac yn sensitif. Gweler [[Wicipedia:Arddull ddiduedd]] am esboniad manylach.
 
2. '''Peidiwch ag amharu ar hawlfraint.''' Mae Wicipedia yn wyddoniadur a roddir i bawb yn rhydd, yn rhad ac am ddim, a hynny o fewn termau [[GNU Free Documentation License]]. Mae uwchlwytho gwaith heb ganiatâd perchennog yr hawlfraint yn herio (ac weithiau'n torri) ein hamcanion, sef adeiladu gwyddoniadur cyfan gwbwl am ddim y gall unrhyw un ei ddosbarthu i unrhyw bwrpas; gall hefyd arwain at atebolrwydd cyfreithiol. Gweler [[Wicipedia:Hawlfraint]] a [[Wicipedia:Cynnwys cyfyngedig]] am ragor o wybodaeth.
 
3. '''Gwyddoniadur yw Wicipedia.''' Dylai'r wefan gael ei defnyddio'n bennaf er mwyn hybu'r gwyddoniadur hwn ac nid i leisio barn. Pwrpas y tudalennau 'Sgwrs' yw gwella a hybu'r erthyglau. Gweler [[Wicipedia:Anaddas ar gyfer Wicipedia]] a [[Wicipedia:Angen ffynhonnell]] sy'n ymwneud â dwy garreg glo hanfodol. Ceir polisi gennym hefyd ar [[Wicipedia:Amlygrwydd|Amlygrwydd]], sef y meincnodau a ddefnyddir wrth i ni ystyried a ydy'r person, y grŵp, y cwmni neu'r gwrthrych yn haeddu erthygl. Ceir hefyd [[Wicipedia:Enwi erthyglau|Bolisi ar enwi erthyglau]].