Sinn Féin: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
cat
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 8:
Yn [[Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 1918]], enillodd Sinn Féin 73 o'r 106 sedd yn Iwerddon, gan gymeryd lle'r [[Y Blaid Seneddol Wyddelig|Blaid Seneddol Wyddelig]] fel arweinwyr y mudiad cenedlaethol. Yn unol a pholisi'r blaid, gwrthododd yr aelodau gymeryd eu seddau yn Nhŷ'r Cyffredin. Yn hytrach, ar [[21 Ionawr]] 1919, cyfarfu 30 o aelodau seneddol Sinn Féin (roedd y rhan fwyaf o'r gweddill wedi eu carcharu) yn Nulyn a chyhoeddi eu hunain yn senedd Iwerddon - [[Dáil Éireann]]. Arweiniodd hyn at ryfel annibyniaeth Iwerddon a sefydlu gwladwriaeth annibynnol Iwerddon.
 
Yn y cyfnod modern, mae'r enw'n cyfeirio fel rheol at y blaid a grewyd yn 1970 o ganlyniad i hollt yn y mudiad gweriniaethol yn [[Iwerddon]]. Yr arweinydd presennol yw [[Gerry Adams]]. Sinn Féin yw'r fwyaf o'r pleidiau cenedlaethol yng [[Cynulliad Gogledd Iwerddon|Nghynulliad Gogledd Iwerddon]], gyda 28 sedd allan o 108. Mae gan y blaid 5 sedd yn Nhy'r Cyffredin, ond ei pholisi, fel polisi Sinn Féin gwreiddiol Arthur Griffith, yw i'r aelodau wrthod cymeryd eu seddau yn Nhy'r Cyffredin. Yn etholiad 2007 yng [[Gweriniaeth Iwerddon|Ngweriniaeth Iwerddon]], enillodd Sinn Féin 4 sedd allan o 166 yn [[Dáil Éireann]], gostyngiad o un sedd.