Jacquerie: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Legobot (sgwrs | cyfraniadau)
B Bot: Migrating 30 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q7126013 (translate me)
Dim crynodeb golygu
Llinell 3:
Defnyddir y term '''Jacquerie''' am wrthryfel y werin yng ngogledd [[Ffrainc]] yn [[1358]], yn ystod y [[Rhyfel Can Mlynedd]]. Yn [[Ffrangeg]], defnyddir ''Jacquerie'' fel term cyffredinol am wrthryfeloedd gwerinol, a gelwir digwyddiadau 1358 y ''Grand Jacquerie'' i'w gwahaniaethu.
 
Roedd byddin Ffrainc wedi ei gorchfygu gan fyddin brenin Lloegr ym [[Brwydr Poitiers (1356)|Mrwydr Poitiers]] yn [[1356]], a [[Jean II, brenin Ffrainc]] wedi ei gymeryd yn garcharor. Dilynwyd hyn gan gyfnod o ymryson ymysg uchelwyr Ffrainc, a chyfnod o galedi mawr i'r werin, gyda threthi uchel a chwmnïau rhydd (''routiers'') o filwyr SaeisnigSeisnig a [[Gasgwyn]]aidd yn crwydr'r wlad yn ysbeilio.
 
Canolbwynt y gwrthryfel oedd [[afon Oise|dyffryn afon Oise]], i'r gogledd o ddinas [[Paris]]. Roedd "Jacque" yn enw sarhaus ar werinwyr gan yr uchelwyr, oherwydd eu bod yn gwisgo siaced amddiffynnol a elwid yn "jacque" mewn brwydr, yn hytrach na llurig dur fel yr uchelwyr. Adnabyddid arweinydd y gwrthryfel, [[Guillaume Cale]], fel "Jacques Bonhomme".
 
Rhoddwyd diwedd ar y gwrthryfel gan [[Siarl II, brenin Navarra|Siarl Ddrwg]]. Ar [[10 Mehefin]] [[1358]], roedd ei fyddin ef a byddin Guillaume Cale yn eu gwyneuwynebu eu gilydd ger [[Mello]]. Gwahoddwyd Cale i ddod i drafod telerau heddwch gyda Siarl, ond pan ddaeth, cymerwyd ef yn garcharor, ac yn ddiweddarach torrwyd ei ben. Heb eu harweinydd, gorchfygwyd ei fyddin ym Mrwydr Mello.
 
[[Categori:Gweriniaetholdeb]]