Yr Ymerodraeth Fysantaidd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llinell 16:
Daeth [[Diocletian]] yn ymerawdwr Rhufain yn [[284]], a gwnaeth newidiadau mawr yn nhrefn rheoli'r ymerodraeth. Sefydlodd y Tetrarchiaeth, oedd yn rhannu'r ymerodraeth yn bedwar. Yn rheoli'r rhannau hyn yr oedd dau "Augustus", sef Diocletian ei hun a Maximinus, a dau "Cesar", [[Galerius]] a [[Constantius Chlorus]]. Yr oedd Diocletian, fel Augustus y dwyrain, yn gyfrifol am [[Thracia]], [[Asia]] a'r [[Aegyptus|Aifft]]; Galerius yn gyfrifol am y [[Balcanau]] heblaw Thracia, Maximinus fel Augustus y gorllewin yn rheoli [[Italia]], [[Hispania]] ac [[Affrica (talaith Rufeinig)|Affrica]], a'r Cesar Constantius Chlorus yn gyfrifol am Gâl a Phrydain. Yr oedd pob Augustus i fod i ymddeol ar ôl 20 mlynedd, gyda'r ddau Gesar yn dod yn Augustus yn eu lle. Ar [[1 Mai]] [[305]] ymddeolodd Dioclecian a Maximianus yn ôl y cynllun; y tro cyntaf i ymerawdwr Rhufeinig ymddeol yn wirfoddol.
 
[[Delwedd:Rome-Capitole-StatueConstantin.jpg|bawd|200px|chwith|Cystennin Fawr, sylfaenydd []Caergystennin]].]]
 
Ar farwolaeth Constantius, yn [[Efrog]] ar [[25 Gorffennaf]] [[306]], cyhoeddodd ei lengoedd ei fab [[Cystennin Fawr|Cystennin]] yn "Augustus". Yn ystod y deunaw mlynedd nesaf bu Cystennin yn brwydro, yn gyntaf i ddiogelu ei safle fel cyd-ymerawdwr ac yn nes ymlaen i uno’r ymerodraeth. Ym [[Brwydr Pont Milvius|Mrwydr Pont Milvius]] ([[312]]) enillodd fuddugoliaeth derfynol yn y gorllewin, ac ym [[Brwydr Adrianople|Mrwydr Adrianople]] ( [[323]]) gorchfygodd ymerawdwr y dwyrain, [[Licinius]], a dod yn unig ymerawdwr (''Totius orbis imperator'').