Nicola Sturgeon: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
16
BDim crynodeb golygu
Llinell 15:
}}
 
Gwleidydd a [[cyfraith|chyfreithwraig]] o'r [[Alban]] ydy '''Nicola Sturgeon''' (g. [[19 Gorffennaf]] [[1970]] yn [[Irvine]], [[Gogledd Swydd Ayr]]) sy'n [[Senedd yr Alban|Ddirprwy Brif Weinidog Senedd yr Alban]] ers 2007 ac yn aelod o [[Plaid Genedlaethol yr Alban|Blaid Genedlaethol yr Alban]] (neu'r ''SNP'') ers oedd yn 16 oed. Mae hefyd yn ''Ddepute'' (neu Ddirprwy) blaid honno ers 2004 ac yn Ysgrifennydd Cabined yr Alban dros Stategaeth y Senedd a'r Llywodraeth ac Ysgrifennydd y Cabined dros Isadeiledd, Buddsoddiad a Dinasoedd. Hi yw [[Aelod o Lywodraeth yr Alban]] dros Glasgow (Deheuol).<ref name="snp.org">http://www.snp.org/people/nicola-sturgeon</ref>
 
Ym 1999 y daeth Sturgeon yn Aelod Seneddol yn gyntaf gan ddod yn Llefarydd yr SNP dros iawnderau ac yna dros iechyd ac addysg. Yn dilyn ymddeoliad John Swinney yn 2004 safodd yn y frwydr dros arweinyddiaeth y blaid, ond tynnodd ei henw'n ôl pan benderfynodd [[Alex Salmond]] ymgeisio a daeth yn Ddirprwy (neu ''Depute''). Safodd Salmond i lawr rhwng 2004 a 2007 a phenodwyd Sturgeon yn Arweinydd nes y daeth Salmond yn ei ôl i gymryd yr awennau yn etholaeth cyffredinol 2007 pan enillodd yr SNP fwy o seddau nac unrhyw blaid arall yn yr Alban. Apwyntiwyd Salmond yn Brif Weinidog ac apwyntiodd ef ei Ddirprwy: Sturgeon.