Abel Jones (Y Bardd Crwst): Gwahaniaeth rhwng fersiynau
baledwr a chantwr pen ffair (1830 -1901)
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Bardd Cymraeg oedd '''Abel Jones''' (1829 – 1901), a adwawenir fel arfer wrth ei enw barddol '''Y Bardd Crwst'''. R...' |
(Dim gwahaniaeth)
|
Fersiwn yn ôl 23:58, 10 Medi 2014
Bardd Cymraeg oedd Abel Jones (1829 – 1901), a adwawenir fel arfer wrth ei enw barddol Y Bardd Crwst. Roedd yn perthyn i'r to olaf o'r baledwyr gwerinol a grwydrai drwy Gymru yn datgan eu cerddi mewn ffeiriau.
Bywgraffiad
Brodor o blwyf Llanrwst yn yr hen Sir Ddinbych (yn Sir Conwy erbyn hyn) oedd Abel Jones, lle y'i ganed yn 1829. Daeth yn faledwr a grwydrai Gymru benbaladr o'r gogledd i'r de, yn canu yn y ffeiriau a'r tafarnau gan enill ei fywoliaeth drwy ddatgan neu ganu ei faledi a gwerthu taflenni ohonynt. Er ei fod yn frodor o'r gogledd roedd yn arbennig o boblogaidd yn y de ac roedd yn enwog yn ffeiriau Gwent a Morgannwg. Bu farw yn 1901.
Llyfryddiaeth
- Tegwyn Jones, Abel Jones Bardd Crwst (Gwasg Carreg Gwalch, 1989). ISBN 9780863811326