Dindaethwy: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
KLBot2 (sgwrs | cyfraniadau)
B Bot: Migrating 1 interwiki links, now provided by Wikidata on d:Q5277983
Ehrenkater (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
'''Dindaethwy''' oedd un o ddau [[cwmwd|gwmwd]] [[cantref]] [[Rhosyr (cantref)|Rhosyr]], yn ne-ddwyrainnwyrain [[Môn]].
 
Gorweddai cwmwd Dindaethwy rhwng [[Afon Menai]] a [[Traeth Lafan|Thraeth Lafan]] i'r de a'r [[Traeth Coch]] ar [[Môr Iwerddon|Fôr Iwerddon]] i'r gogledd. Roedd yn cynnwys pwynt de-ddwyreinioldwyreiniol yr ynys, Trwyn Du ym [[Penmon|Mhenmon]], gyferbyn ag [[Ynys Seiriol]]. Ffiniai â chwmwd [[Menai]], ail gwmwd Rhosyr, i'r gorllewin a chwmwd [[Twrcelyn]], cantref [[Cemais (cantref ym Môn)|Cemais]], i'r gogledd.
 
Roedd gan Dindaethwy lys cymydol yn [[Llan-faes]], canolfan bwysicaf y cwmwd. Yn ddiweddarach yn yr Oesoedd Canol, sefydlodd [[Llywelyn Fawr]] [[Brodordy Llan-faes|fynachlog yn Llan-faes]] a chladdwyd ei wraig [[Siwan]] yno. Cyn hynny roedd gan y cwmwd un o ddau [[clas|glas]] pwysicaf yr ynys ym Mhenmon, a drowyd yn briordy yn y [[12fed ganrif]], sef [[Priordy Penmon]].
 
Ymhlith canolfannau grym diweddarach y cwmdcwmwd oedd [[Penmynydd]], plas teuluol [[Tuduriaid Môn]].
 
==Yr enw==