Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Bod dynol"

Ychwanegwyd 476 beit ,  5 o flynyddoedd yn ôl
Cynhanes
(→‎Gweler hefyd: man gywiriadau using AWB)
(Cynhanes)
 
Fel [[epa]]od, mae dyn yn gymdeithasol ei natur. Mae wedi mireinio'r grefft o gyfathrebu'n effeithiol er mwyn iddo fynegi ei hun, cyfnewid syniadau a threfnu gweithgareddau. Mae wedi creu strwythurau cymdeithasol cywrain a chymhleth o grwpiau sy'n cydweithio ac yn cystadlu yn erbyn ei gilydd; grwpiau mor wahanol â'r [[teulu]] a [[cenedl|chenhedloedd]]. Mae'r cydymwneud hwn rhwng dyn a dyn wedi sefydlu dros y milenias diwethaf [[traddodiad|draddodiadau]], [[defod]]au, [[moesau]], [[gwerthoedd]] a safon dderbyniol gan gymdeithas drwy gyfundrefn o [[deddf|ddeddfau]]. Gall dyn werthfawrogi [[harddwch]] ac [[estheteg]] sydd ynghyd â'r awydd i fynegi ei hun wedi arwain at [[celfyddyd|gelfyddyd]], [[llenyddiaeth]] a [[cerddoriaeth|cherddoriaeth]].
 
==Cynhanes Cymru==
Gellir dweud bod tri math o fod dynol yng Nghymru yn ystod y cyfnod cynhanes (a phrotohanes):
1. Y Neanderthals cynnar yn [[Ogof Bontnewydd]], ger [[Llanelwy]] - 225,000 [[CP]]
2. Y Neaderthal clasurol yn [[Ogof Coygan]], [[Sir Gaerfyrddin]] - 50,000 CP
3. Bod dynol modern yn [[Ogof Paviland]], [[Gŵyr]] - 26,000 CP
Gwyddom hyn gan fod eu hesgyrn wedi'u canfod yno; dim ond llond dwrn o ddannedd yn Ogof Bontnewydd ac mae'r dystiolaeth yn gymharol brin.
 
==Cyfeiriadau==