Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Ogof Paviland"

Ychwanegwyd 509 beit ,  6 blynedd yn ôl
cyfoethocaf
(delwedd)
(cyfoethocaf)
[[Delwedd:Goat's Hole Paviland.jpg|250px|bawd|Ogof Twll y Gafr lle darganfuwyd "Arglwyddes Goch Pen-y-Fai" (darlun 1823)]]
[[Delwedd:Rhossili 06 05.jpg|250px|bawd|Traeth Rhosili]]
[[Ogof]] [[cynhanes|gynhanesyddol]] wedi'i lleoli ger [[Rhosili]] ar y [[Gŵyr]] ({{gbmapping|SS951807}}) yw '''Ogof Paviland''' (neu '''Ogof Pen-y-Fai'''). Mae'n un o gyfres o ogofâu wedi'u cysylltu, ac a fu'n gartref i bobl filoedd yn ystod [[Hen Oes y Cerrig Uchaf]]: tua 26,000 o flynyddoedd yn cyn Cristy presenol ([[CP]]). Mae'n adnabyddus fel y man lle cafwyddarganfuwyd sgerbwd "Arglwyddes Goch Pen-y-Fai", y ffosil dynol cyntaf i'w darganfod (1823). Caiff yr ogof ei hystyried fel yr ogof "gyfoethocaf o'r cyfnod hwn (Hen Oes y Cerrig Uchaf) yn Ynys Prydain".<ref>Prehistoric Wales gan Frances Lynch et al. Sutton Publishing Ltd; 2000; tud. 19 Mae'r gyfrol yma'n datgan mai dyn 25 oed sydd yma.</ref>
 
==Darganfyddiadau archaeolegol==
Darganfuwyd yno fwyeill llaw o [[Hen Oes y Cerrig]], dannedd [[blaidd|bleiddiaid]] ac esgyrn [[Arth frown|eirth]].
 
Ond y darganfyddiad pwysicaf oedd [[sgerbwd]] corff dynol o Hen Oes y Cerrig a adnabyddir dan yr enw "Arglwyddes Goch Pen-y-Fai". Gwnaed y darganfyddiad hwnnw gan yr hynafiaethydd ac [[archaeoleg]]ydd cynnar [[William Buckland]] yn [[1823]] yn Ogof Twll y Gafr. Credai Buckland ac eraill mai sgerbwd merch oedd hi ond dangoswyd mai gweddillion dyn ifanc tuag 21-25 oed ydyw.<ref>Prehistoric Wales gan Frances Lynch et al. Sutton Publishing Ltd; 2000; tud. 18 Mae'r gyfrol yma'n datgan mai dyn 25 oed sydd yma.</ref> Roedd yn byw tua 29,000 o flynyddoedd yn ôl. Paentiwyd ei sgerbwd a lliw ''ochre'' coch, fel amddiffyn yn erbyn pwerau maleisus yn ôl pob tebyg (arfer cyffredin yn y cyfnod hwnnw). Dyma'r gweddillion dynol modern (''Homo sapiens sapiens'') hynaf a ddarganfuwyd ym Mhrydain a'r claddu defodol hynaf y gwyddys amdano yn [[Ewrop]] i gyd. Cafwyd [[penglog]] [[mamoth]] yn ei ymyl ond mae hynny ar goll erbyn hyn.
 
Ymhlith y darganfyddiadau diweddarach o'r ogof y mae casgliad o bennau gwaywffyn a chrafwyr croen [[callestr]], sydd efallai i'w dyddio i'r [[cyfnod Aurignasiaidd]].