Iarlles y Ffynnon: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
chwaneg
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
Mae '''Iarlles y Ffynnon''' neu '''Owain''' yn chwedl Arthuraidd [[Cymraeg|Gymraeg]] o'r Oesau Canol. Mae'n un o'r tair stori ([[rhamant]]) Arthuraidd a adnabyddir wrth y teitl [[Y Tair Rhamant]].
 
Ceir y testun yn [[Llyfr Gwyn Rhydderch]] a [[Llyfr Coch Hergest]]. Ceir testun rhannol mewn llawysgrif arall, ''Jesus Colleg Oxford MS. XX'' (yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen). Dim ond y Llyfr Coch sy'n cadw'r testun cyflawn. Y ddwy chwedl arall yn y Tair Rhamant yw ''[[Peredur fab Efrawg]]'' a ''[[Geraint ac Enid]]''.
 
Mae'r chwedl yn cyfateb i chwedl ''Yvain ou le Chevalier au lion'' gan yr awdwr [[Ffrangeg]] [[Chrétien de Troyes]] o ail hanner y [[12fed ganrif]]. Erbyn hyn cred ysgolheigion fod y ddau gylch o chwedlau yn annibynnol ar ei gilydd ond bod elfennau ynddynt yn seiliedig ar waith hŷn.