Paul Cézanne: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Huw P (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Huw P (sgwrs | cyfraniadau)
Llinell 30:
Ar ddechrau'r rhyfel Ffrainc-Prussia ym 1870, dihangodd Cézanne o Baris i L'Estaque yn Provence ble peintiodd tirluniau yn symud yn ôl i Baris ym 1871. Ym 1874 dangoswyd gwaith Cézanne yn arddangosfa gyntaf y grŵp Argraffiadaeth (Impressionnisme) ac ym 1877 y drydedd arddangosfa. Cyfarfu â'r peintiwr [[Camille Pissarro]] o'r grŵp a fu'n ddylanwad mawr arno, y ddau yn teithio trwy gefn gwlad Ffrainc i beintio tirluniau. Er gwaethaf ei lwyddiant a sylw cynyddol ym Mharis roedd well ganddo dychwelyd i Provence i beintio ar ben ei hun. O dan ddylanwad Pissaro rhoddodd y gorau i liwiau tywyll a fe ddaeth ei gynfasau'n llawer ysgafnach a bywiog.<ref>Rosenblum 1989, p. 348</ref>
 
Canolbwyntiodd Cézanne ar nifer cyfyngedig o bynciau – portreadau, tirluniau, bywyd llonydd ac astudiaethau o bobl yn nofio. Defnyddiodd lefydd, pobl a'r phoblpethau o'i amgylch am y tri cyntaf: aelodau'r teulu a phentrefwyr ac ar gyfer y portreadau, tirwedd Provance am y tirluniau, a phethau fel ffrwythau ar gyfer y bywyd llonydd. Ond ar gyfer y nofwyr bu rhaid iddo ddylunio o'i ddychymyg oherwydd diffyg modelau.
 
Arbrofodd symleiddio ffurfiau naturiol i siapiau geometrig elfennol (er enghraifft - lleihau boncyff coeden i silindr - neu oren i belen). Arbrofodd hefyd sut i gyfleu dyfnderoedd a sawl safbwynt yn yr un llun.
Llinell 37:
 
Mae ei hen dŷ yn Aix-en-Provence bellach ar agor i'r cyhoedd. <ref>http://www.cezanne-en-provence.com/page/en/15.xhtm</ref>
 
 
==Rhai o'i weithiau enwocaf==