Antiochia: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau) BDim crynodeb golygu |
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau) BDim crynodeb golygu |
||
Llinell 5:
Sefydlwyd Antiochia tua diwedd y [[4ydd ganrif CC]] gan [[Seleucus I Nicator]], un o gadfridogion [[Alecsander Fawr]]. Dywedir i gynllun gwreiddiol strydoedd y ddinas gael ei osod gan y pensaer [[Xenarius]] i efelychu dinas [[Alexandria]]. Tyfodd i fod yn ddinas fawr a phwysig, yn cystadlu ag Alexandria fel dinas bwysicaf y dwryrain, ac yn ddinas bwysig iawn yn hanes datblygiad [[Cristionogaeth]].
Yn ystod oes aur y ddinas tua diwedd y cyfnod Hellenistaidd a dechrau'r cyfnod Rhufeinig, roedd ei phoblogaeth wedi cyrraedd tua 500,000; y drydedd dinas yn y byd ar ôl [[Rhufain]] ac Alexandria
Yn ddiweddarach bu ymgiprys am y ddinas rhwng yr [[Arabiaid]] a'r [[Ymerodraeth Fysantaidd]]. Bu gwarchae hir ar y ddinas yn ystod y Groesgad Gyntaf, a daeth [[Bohemond I, Tywysog Antioch|Bohemund]], tywysog Taranto, yn arglwydd y ddinas. Cipiwyd y ddinas yn ôl yn [[1268]] gan y Swltan [[Mamluk]] [[Baibars]] wedi gwarchae hir arall. Lladdodd Baibars lawer o'r boblogaeth Gristionogol, a rhwng hyn a'r ffaith fod y porthladd erbyn hyn allan o gyrraedd llongau mawr, dirywiodd y ddinas.
|