Nanteos: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
cyswllt i'r comin
Dim crynodeb golygu
Llinell 2:
Plasdy yng nghymuned [[Llanfarian]] ger [[Aberystwyth]], [[Ceredigion]] yw '''Nanteos'''. Fe'i adeiladwyd yn yr arddull Newydd-Glasurol gan deulu'r Poweliaid yn y 18fed ganrif.
 
Cysylltwyd [[Y Greal Santaidd]] aâ [[phlasdy]] Nanteos. Roedd llestr yno a elwid wrth yr enw 'Cwpan Nanteos'. Dywedid mai hwn oedd y Greal ei hun, wedi ei gludo o [[Ynys Wydrin]] i [[Abaty Ystrad Fflur]] ac oddi yna i Nanteos yn sgîl [[diddymu'r mynachlogydd]] yn 1536. Yn ôl y chwedl, daeth [[Joseff o Arimathea]] o [[Palesteina|Balesteina]] i Ynys Wydrin gyda'r llestr arbennig. Credid ei bod yn iachau afiechydon, yn enwedig afiechyd gwaed.
 
Ymddengys nad oes sail i honiad George Powell fod [[Wagner]] wedi aros yn Nanteos a chael ei ysbrydoli i gyfansoddi ei opera ''[[Parsifal]]'' ar ôl yfed o'r gwpan. Roedd Powell yn hoff iawn o waith Wagner ond ymwelodd y cyfansoddwr â gwledydd Prydain yn 1855, tua deng mlynedd cyn iddo ysgrifennu ''Parsifal''.<ref>''Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru'', d.g. Nanteos.</ref>