Christine James: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llinell 37:
Ganed Christine James (née Mumford) yn [[Tonypandy|Nhonypandy]] lle dysgodd y Gymraeg fel ail iaith yn [[Ysgol Ramadeg y Merched, Y Porth]]. Astudiodd y Gymraeg ym [[Prifysgol Aberystwyth|Mhrifysgol Aberystwyth]] lle enillodd radd BA yn y dosbarth cyntaf yn 1975. Aeth ymlaen i olygu testun o Gyfraith Hywel, cyfreithiau hanesyddol Cymru, ar gyfer gradd doethuriaeth, a ddyfarnwyd iddi yn 1984.
 
Rhwng 1979 a 1981 bu'n gynorthwyydd golygyddol yn yr Academi Gymreig, yn gweithio ar ''Cydymaith i Lenydddiaeth Cymru''. Yn [[1985]], fe'i penodwyd yn ddarlithydd yn Adran y Gymraeg, Prifysgol Abertawe, lle y mae erbyn hyn yn athro cyswllt.<ref>[http://www.swan.ac.uk/staff/academic/artshumanities/aht/jamesc/]</ref> O ran ei hymchwil academaidd y mae'n arbenigo ar lenyddiaeth yr Oesoedd Canol a'r cyfnod modern cynnar ac ar lenyddiaeth cymoedd diwydiannol de Cymru. Mae hi'n un o gymrodyr etholedig yr [[Academi Gymreig]] a [[Chymdeithas Ddysgedig Cymru]].
 
Yn 2001 cyhoeddwyd ei golygiad o gerddi'r bardd [[D. Gwenallt Jones]], ''Cerddi Gwenallt: Y Casgliad Cyflawn'' (Gwasg Gomer).