Diwygiad 1904–1905: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llinell 29:
Ymhell cyn clywed sôn am ddiwygiad roedd hi wedi ei threfnu fod Joseph Jenkins i siarad ar y Nos Lun cyn iddo ddychwelyd i Geinewydd. Fe lenwyd y capel i'r ymylon unwaith yn rhagor ar y nos Lun, ond o bosib y digwyddiad mwyaf hynod y noson honno oedd i ŵr ddatgan o'r galori “Mi fydd cyfarfod arall yma nos yfory...”. Fe gynhaliwyd cyfarfod arall ar y nos Fawrth a barhaodd tan oriau mân y bore; roedd y diwygiad wedi cyrraedd Rhydaman. Er bod Nantlais eisoes wedi ei ordeinio gan y Methodistiaid, gwerth fyddai nodi na chafodd Nantlais dröedigaeth tan benwythnos ymweliad Joseph Jenkins â Rhydaman yn Nhachwedd 1904. Daeth ei 'gadwedigaeth' ar y Nos Sadwrn, noswyl ymweliad Joseph Jenkins.
 
=== GogleddY CymruGogledd ===
 
Yn Rhagfyr 1904 fe aeth Joseph Jenkins ar daith bregethu am dri mis i'r Ogledd CymruGogledd. Bendithiwyd cyrddau yn [[Amlwch]], [[Llangefni]], [[Llannerchymedd]], [[Talysarn]], [[Llanllyfni]], [[Dinbych]], [[Llanrwst]], [[Dinorwig]], [[Disgwylfa]] ac ymysg myfyrwyr ym [[Prifysgol Cymru, Bangor|Coleg Prifysgol Cymru, Bangor]]. Ond digwyddodd y "fendith" fwyaf ym [[Bethesda|Methesda]]. Disgrifiodd un o arweinwyr eraill y diwygiad [[J. T. Job]] gyfarfod yn Jerwsalem, Bethesda ar yr [[22 Rhagfyr|22ain o Ragfyr]] 1904 'yn gorwynt'. Bu gweddïo yno am awr cyn i Joseph Jenkins gyrraedd, ugain munud i mewn i'w bregeth fe ffrwydrodd y dorf fawr mewn gorfoledd; dynion yn gwaeddu emynau a phobl yn dawnsio rhwng y corau.
 
=== [[Evan Roberts]] a Chasllwchwr ===